Sefyll mewn etholiad
Cynhelir yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf Ddydd Iau 5 Mai 2022.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi cyflwyno nifer o newidiadau i'r modd y bydd etholiadau lleol yn gweithio eleni.
Ar ein gwefan ceir llawer o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill a'r broses etholiadol yn gyffredinol.
Darllenwch y wybodaeth gyhoeddus am etholiadau llywodraeth leol.
Darllenwch y wybodaeth gyhoeddus ar ddod yn gynghorydd.
Bydd un newid yn arbennig yn effeithio ar staff Cyngor Bro Morgannwg.
O dan y Ddeddf rydych wedi'ch anghymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol os ydych yn swyddog cyflogedig neu'n gyflogai i'r awdurdod lleol hwnnw. Fodd bynnag, nid ydych bellach wedi'ch anghymhwyso rhag sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad i awdurdod lleol.
Byddai hyn yn wir lle bydd eich penodiad fel aelod o staff:
- wedi'i wneud
- y gellid ei wneud
- wedi'i gadarnhau gan yr awdurdod lleol ei hun
- wedi'i gadarnhau gan unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod lleol
- wedi'i gadarnhau gan unrhyw gydbwyllgor neu awdurdod Parc Cenedlaethol pan fo'r awdurdod lleol yn cael ei gynrychioli gan berson sy'n dal swydd neu gyflogaeth o'r fath
Os ydych yn athro neu athrawes mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol, byddwch hefyd wedi eich anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r awdurdod lleol.
Os cewch eich ethol, nid yw’r anghymhwysiad rhag gweithio i'r awdurdod lleol yn gymwys ar unrhyw adeg cyn i chi wneud datganiad yn derbyn swydd fel aelod. Felly, os byddwch yn dewis sefyll etholiad ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg ac yn llwyddiannus, mae'n rhaid eich bod wedi ymddiswyddo o'ch swydd cyn llofnodi'r datganiad yn derbyn swydd fel aelod.
Os oes angen rhagor o arweiniad arnoch ar y mater hwn, dylech siarad â'ch partner busnes Adnoddau Dynol yn y lle cyntaf.