Darganfyddwch pwy all bleidleisio yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol:
Pleidleiswyr Cymwys
I fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn rhaid i chi fod:
-
wedi’ch cofrestru i bleidleisio
-
yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad (‘diwrnod y bleidlais’)
-
yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu’r UE
-
yn byw yng Nghymru
-
heb eich eithrio'n gyfreithiol rhag pleidleisio
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pwy all bleidleisio, neu i gofrestru i bleidleisio, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol. Information for votersOs nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio erbyn hanner nos, nos Iau 14 Ebrill 2022.
Cardiau Pleidleisio a Phleidleisiau Post
Bydd cardiau pleidleisio’n cael eu dosbarthu ddydd Mawrth 22 Mawrth 2022 a bydd rhediad atodol yn cael ei ddosbarthu ddydd Mawrth 19 Ebrill 2022.
Bydd Pleidleisiau Post yn cael eu dosbarthu ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2022 trwy bost dosbarth cyntaf. Bydd rhediad atodol o becynnau pleidleisio post yn cael ei ddosbarthu ddydd Gwener 22 Ebrill 2022.
Y dyddiad cyntaf y gallwn ailgyhoeddi pleidleisiau post ar gyfer pecynnau pleidleisio post sydd wedi’u colli neu eu difetha yw dydd Iau 28 Ebrill 2022. Dim ond hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais y gall etholwyr ofyn am becyn pleidleisio post newydd.