Cost of Living Support Icon

Gwybodaeth i Ymgeiswyr ac Asiantau 

Mae’r dudalen hon ar gyfer isetholiadau sirol neu drefol/cymunedol yn unig.

 

  • Dyddiadau Pwysig – Ymgeiswyr ac Asiantau

     

    Cyflwyno papurau enwebu - 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

     

    Dyddiad olaf ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl - 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

     

    Dyddiad olaf ar gyfer penodi asiant etholiadol - 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

     

    Dyddiad olaf ar gyfer penodi asiantau pleidleisio a chyfrif – 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

  • Dyddiadau Pwysig – Cofrestru a Phleidleisiau Absennol 

     

    Dyddiad olaf ar gyfer gwneud cais i gofrestru: 12 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

     

    Dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy’r post neu gael pleidlais bost drwy ddirprwy: 5pm 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

     

    Dyddiad olaf ar gyfer gwneud newidiadau i bleidleisiau post a phleidleisiau post drwy ddirprwy: 5pm 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

     

    Dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i gael pleidlais bost drwy ddirprwy: 5pm 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

     

    Dyddiad cynharaf y caiff etholwr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle’r un sydd wedi mynd ar goll: 4 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

     

    Dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau am bleidlais frys drwy ddirprwy: 5pm ar ddiwrnod yr etholiad

     

    Dyddiad olaf y caiff etholwr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle’r un sydd wedi mynd ar goll: 5pm ar ddiwrnod yr etholiad

     

    Danfon cardiau pleidleisio: tua 25 diwrnod gwaith cyn yr etholiad

     

    Danfon pecynnau pleidlais bost: tua 14 diwrnod gwaith cyn yr etholiad


 

Cynghor Sir 

  • Cynghorydd Sir – Ffurflenni Enwebu a Chanllawiau:


    1. Nomi
      1. Papur enwebu*
      2. Tynnu papur enwebu yn ôl 

     

    Asiantau Etholiadol (Ymgeiswyr sirol yn unig) 

    Mae’n RHAID i bob ymgeisydd gael asiant etholiadol (er y gall ymgeisydd weithredu fel ei asiant/hasiant etholiadol ei hun os dymuna).  Asiant Etholiadol yw’r person sy’n gyfrifol yn ôl y gyfraith am reoli ymgyrch a chyllid yr etholiad yn briodol.  Mae’n rhaid i Asiant Etholiadol gael cyfeiriad swyddfa y gellir anfon pob gohebiaeth swyddogol iddo.  Mae'r Ffurflen Penodi Asiant Etholiadol wedi'i chynnwys yn y pecyn papur enwebu.   

 

Cynghor Tref a Chymuned 

  • Cynghorydd Tref a Chymuned - Ffurflenni Enwebu a Chanllawiau: 
      1. Papur enwebu*
      2. Tynnu papur enwebu yn ôl

    *Wrth lenwi’r papur enwebu a wnewch chi sicrhau eich bod yn llenwi ac yn dychwelyd y canlynol:-

     - Cydsyniad i gael ei enwebu

     - Tystysgrif Awdurdodi (os ydynt yn sefyll dros blaid wleidyddol) 

     - Cais am bapur arwyddlun plaid (os ydynt yn sefyll dros blaid wleidyddol) 

     

 

Asiantau Pleidleisio 

Gall Asiantau Pleidleisio wylio’r gweithgarwch mewn canolfannau pleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio.  Dim ond un asiant pleidleisio fesul ymgeisydd penodol gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio benodol ar unrhyw adeg.  

 

Gall asiantau pleidleisio gadarnhau a yw'r blwch pleidleisio yn wag cyn agor y bleidlais a bod yn bresennol i gynorthwyo â nodi unrhyw achosion o ddynwarediad.  A wnewch chi sicrhau nad yw asiantau etholiadol penodedig yn atal, rhwystro na dychryn pleidleiswyr ar eu ffordd i mewn neu allan o’r orsaf bleidleisio.  

 

Asiantau Pleidlais Bost

Gall Asiantau Pleidlais Bost wylio’r gweithgarwch ar adeg agor y pleidleisiau post. 

 

Asiantau Cyfrif  

Gall Asiantau Cyfrif wylio’r gweithgarwch ar adeg dilysu’r cyfrif a goruchwylio’r broses gan dynnu sylw’r staff cyfrif at unrhyw bapurau pleidleisio amheus. 

 

 

Rhifwyr 

Nid oes angen unrhyw ffurflen i benodi Rhifwyr.  Gall rhifwyr sefyll y tu allan i’r lleoliad pleidleisio a chofnodi rhif etholwr y bobl sydd wedi pleidleisio er mwyn cynorthwyo gweithwyr plaid eraill.  NI DDYLAI rhifwyr atal, rhwystro na dychryn pleidleiswyr ar eu ffordd i mewn neu allan o’r ganolfan bleidleisio.  

 

Nid oes gan rifwyr unrhyw statws cyfreithiol ac mae hawl gan bleidleiswyr i wrthod rhoi unrhyw wybodaeth iddynt. 

 

 

Rachel Starr-Wood, Rheolwr Cofrestru Etholiadol

  • 01446 709304

Hayley Hanman, Dirprwy Reolwr Cofrestru Etholiadol

  • 01446 709345

Rob Thomas, Swyddog Canlyniadau / Swyddog Cofrestru Etholiadol

 

Cysylltwch â Rachel neu Hayley yn y lle cyntaf.   

Victoria Davidson, Dirprwy Swyddog Canlyniadau

 

Cysylltwch â Rachel neu Hayley yn y lle cyntaf.