Staffnet+ >
Yr Wythnos gyda Rob 14 Tachwedd 2025
Yr Wythnos gyda Rob
14 Tachwedd 2025
Helo bawb,
Yr wythnos hon, dwi wedi bod yng Ngogledd Cymru yn helpu i gynnal Asesiad Perfformiad Panel ar gyfer Cyngor Ynys Môn.
Ni oedd un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i gael y gwerthusiad hwn, ym mis Tachwedd y llynedd, gan arwain at adborth hynod gadarnhaol, gyda ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i Bro 2030, ein Cynllun Corfforaethol newydd, yn cael eu canmol.
Dros y dyddiau diwethaf, dwi wedi bod ar ochr arall y ffens, gan ymuno â chyfoedion o wahanol sectorau ac Aelod Etholedig o Gyngor arall i archwilio gweithrediadau yn Ynys Môn.
Bu'n brofiad buddiol iawn gan fod pethau i'w dysgu bob amser o'r ffordd y mae Awdurdod arall yn gweithredu. Roedd yn ddiwedd arbennig o gyffrous i'r wythnos i gydweithwyr yn Ynys Môn wrth iddynt ddysgu am y penderfyniad i fuddsoddi yn safle Wylfa, a fydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer cynhyrchu ynni niwclear.
Rwy'n gadael gyda llawer o feddwl amdano a digon o syniadau yn barod i'w cymryd yn ôl i'r Fro.
Tra i ffwrdd, roeddwn i’n dal i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion o gartref, felly mae digon o wybodaeth i gynnwys yn y crynhoad dydd Gwener hwn.
Yn gyntaf, bydd pawb yn ymwybodol o'r glaw trwm heddiw, a bod hynny am barhau i mewn i'r penwythnos gyda'r Swyddfa Dywydd yn enwi'r storm 'Claudia'. Hoffwn ddiolch i'r holl dimau a staff sydd wrth gefn i ddelio ag effeithiau'r tywydd eithafol hwn, gan gynnwys ein tîm Cynllunio Brys ein hunain dan arweiniad Debbie Spargo. Mae hi eisoes wedi bod yn rhan o gynllunio ein hymateb, pe bai'r sefyllfa'n ddigon difrifol.
Rydym hefyd yn cydnabod y gall effaith y stormydd hyn fod yn sylweddol ar ein trigolion ac y gall hyn arwain at fwy o alwadau i'n canolfan gyswllt ar adeg pan mae gennym broblemau capasiti o fewn y tîm. Cefais fy nharo'n arbennig ac yn falch ddoe pan glywais fod nifer o gydweithwyr a thimau o bob rhan o'r Cyngor cyfan wedi mynegi eu parodrwydd a'u hawydd i helpu i drin unrhyw gynnydd mewn galwadau i'n canolfan gyswllt o ganlyniad i'r storm.
Mae hyn yn dangos parodrwydd ein cydweithwyr i helpu a gweithio'n hyblyg ac yn dangos ymrwymiad i weithio fel un tîm er budd pawb sy'n defnyddio ein gwasanaethau.
Yn ddiweddar, cawsom gadarnhad cyffrous bod Llyfrgell Penarth wedi llwyfannu ymgais llwyddiannus ar record byd ym mis Mai.
Mae Max Baker bellach yw datblygwr gemau fideo gwrywaidd ieuengaf y blaned, gan gyflawni'r statws hwnnw yn y Makerspace yn Llyfrgell Penarth
Treuliodd y bachgen 11 oed bedair awr yn creu gêm platfformio gyda phum lefel unigryw.
Dechreuodd godio yn yr ysgol gynradd ac ers hynny mae wedi gwneud nifer o'i gemau ei hun ar y platfform gêm fideo indie — Itch.io — o dan yr enw Crowstoleit Studios.
Roedd Max yn rhan o glwb codio a gynhaliwyd yn y Makerspace felly dyma oedd y lleoliad delfrydol ar gyfer ei ymgais record byd.
Dywedodd Jordan Forse, Rheolwr Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Diwylliannol: “Rydym wrth ein bodd i ddathlu cyflawniad anhygoel Max ac i fod wedi cefnogi ei daith trwy Makerspace Penarth.
“Mae dod yn Ddeiliad Record Byd Guinness pan yn 11 oed yn unig, yn gyflawniad rhyfeddol, ac mae'n arddangos beth yn union yw ein llyfrgelloedd a'n mannau diwylliannol – sef llefydd i annog creadigrwydd, dysgu a chymuned. Mae'r Makerspace, fel rhan o'n cynnig Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Diwylliannol ehangach, yn rhoi cyfle i bobl o bob oed archwilio sgiliau newydd a dod â'u syniadau yn fyw. Mae llwyddiant Max yn enghraifft wych o hynny ar waith.”
Clywch clywch Jordan. Dyma enghraifft wych o lyfrgelloedd fywiog yr 21ain ganrif a sut y gellir ei defnyddio.
Rydym wedi buddsoddi mewn technoleg o'r radd flaenaf sy'n caniatáu i bobl ragori mewn ystod o weithgareddau modern, creadigol.
Wrth siarad am greadigrwydd, bydd Parc Sglefrio Coffa Richard Taylor yng Ngerddi’r Knap yn cael ychwanegiad feiddgar, ffres pan fydd murlun newydd yn cael ei osod yn y dyfodol agos iawn.
Mae'r prosiect, sy'n nodi ail ben-blwydd agoriad y parc sglefrio, wedi'i wneud yn bosibl diolch i gyllid gan y Loteri Genedlaethol a sicrhawyd gan Ymddiriedolaeth Goffa Richard Taylor.
Bu Richard farw yn drasig mewn damwain sglefrio yn 2004.
Yn dilyn yr ymgynghoriad gwreiddiol ar ddylunio sglefrio, awgrymodd trigolion a sglefrwyr lleol y byddai murlun celf stryd yn deyrnged addas i Richard a'r gymuned sglefrio ffyniannus y mae'r parc wedi'i hysbrydoli.
Ar ôl trafodaethau gyda CADW a chais cynllunio llwyddiannus, gwahoddwyd preswylwyr i rannu eu meddyliau ar y dyluniadau arfaethedig, sy'n cynnwys silwetau Richard a thirnodau o bob rhan o'r Barri.
Gan ystyried yr adborth cymunedol hwnnw, mae'r dyluniad terfynol wedi'i fireinio er mwyn sicrhau ei fod yn ategu at amgylchedd naturiol Gerddi’r Knap.
Bydd y cwmni celf stryd arbenigol Hurts So Good yn dechrau gweithio ar y murlun o 14 Tachwedd, a disgwylir i’r gwaith gymryd tua phum wythnos.
Am resymau diogelwch, bydd y parc sglefrio ar gau dros dro yn ystod y cyfnod hwn tra bod sgaffaldiau ar waith.
Mae Adam Sargent a’r tîm wedi gweithio'n galed i gyflwyno gwaith celf y gall teulu Richard a'r gymuned ehangach fod yn falch ohono. Da iawn i chi gyd – fedrai’m aros i weld y murlun gorffenedig.
Tra i ffwrdd yr wythnos hon, hyfryd oedd darllen erthygl nodwedd ar y gwaith gwych a wneir gan ein Gwasanaeth Cofrestru.
Mae'r tîm hwnnw'n ymwneud â logio genedigaethau newydd, arwain priodasau a threfnu hysbysiadau marwolaeth.
Ac, er bod hynny'n swnio fel llwyth gwaith eithaf rheoledig, mae digon o le i'r anarferol - o seremonïau ar thema Star Wars, i westeion priodas gyda sbotiau pinc a melyn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r tîm wedi mynd uwchlaw a thu hwnt – gan addasu i ddeddfwriaeth sy'n newid, cofleidio trawsnewid digidol, a chynnal y safonau gwasanaeth uchaf.
O'r ddesg flaen i'r ystafell seremoni, mae pob aelod yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud cerrig milltir mwyaf arwyddocaol bywyd yn gofiadwy ac yn ystyrlon.
Mae eu gwaith tîm, eu gwytnwch, a'u hymrwymiad i'r cyhoedd yn glod i'r gwasanaeth a'r Cyngor ehangach.
Hayley Jefferies yw Cofrestrydd Arolygol a Rheolwr Gwasanaeth Cofrestru, wedi'i chefnogi a'i gynorthwyo'n fedrus gan gydweithwyr o'r radd flaenaf.
Hoffwn ddiolch i bob aelod o'r tîm hwnnw am eu hymdrechion.
Rydych yn rhannu rhai o eiliadau mwyaf annwyl gyda preswylwyr, gan eu trin i gyd gyda'r dathliad a'r arwyddocâd y maent yn haeddu. Gwaith arbennig!
Llongyfarchiadau hefyd i'r Tîm Byw'n Iach ar ôl i'r Ddarpariaeth Chwarae Mynediad Agored y mae'n ei darparu gael ei graddio'n ardderchog ar draws y bwrdd gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Derbyniodd y gwasanaeth y radd uchaf ym mhob un o'r pedwar maes dan asesiad — Lles, Gofal a Datblygiad, yr Amgylchedd, ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Adolygwyd darpariaeth gwyliau ysgol y tîm fel rhan o'r broses, sy'n cynnwys cyfleoedd i blant anabl sydd angen cymorth ychwanegol.
Mae'r gwerthusiadau hyn yn ddirybudd gan fod arolygwyr yn mynychu digwyddiad heb rybudd.
Maent yn treulio'r diwrnod yn siarad â staff a phlant, gan arsylwi sut maen nhw'n rhyngweithio, graddio'r gweithgareddau sydd ar gael, craffu ar bolisïau a gweithdrefnau a gofyn i rieni am eu barn.
Mae Joanne Jones a Julia Sky yn arwain ar y maes gwaith hwn, gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddiogel, yn gynhwysol ac yn hwyl i bawb.
Mae'r graddau hyn yn profi eu bod yn llwyddo yn fawr gyda'r nod hwnnw.
Da iawn i bawb — mae hwn yn ganlyniad gwirioneddol eithriadol.
Yn olaf, hoffwn eich atgoffa bod ymgyrch rhoi rhoddion a chodi arian y Cyngor, Achos Siôn Corn, wedi dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn.
Ei nod yw darparu anrheg i bob plentyn a gefnogir gan Wasanaethau Cymdeithasol a allai fel arall fynd hebddo.
Ers iddo ddechrau yn 2022, mae Achos Siôn Corn wedi cyflwyno miloedd o anrhegion i blant a phobl ifanc ledled y Fro, gan ddarparu rhyddhad mawr ei angen i deuluoedd.
Dim ond diolch i haelioni trigolion lleol, busnesau a staff y Cyngor y bu hyn yn bosibl.
Gall y rhai sy'n dymuno cefnogi ymgyrch 2025 wneud hynny drwy wneud rhodd ariannol.
Mae hyn yn caniatáu i dîm y prosiect siopa am yr eitemau penodol ar restr Nadolig pob plentyn, gan sicrhau bod pob anrheg yn bersonol ac ystyrlon.
I'r rhai na allant gyfrannu'n ariannol, lledaenwch y gair ymhlith ffrindiau, teulu ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Gall busnesau a sefydliadau a hoffai fod yn rhan o Achos Siôn Corn 2025 gysylltu hefyd â santascause@valeofglamorgan.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae yna hefyd rediad hwyl codi arian yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, Tachwedd 29, gan ddechrau o Ynys y Barri, gyda'r union leoliad i'w rannu gyda'r cyfranogwyr yn nes at yr amser.
P'un a ydych chi'n rhedeg, yn cerdded, neu'n bloeddio o'r llinell ochr, bydd unrhyw gefnogaeth yn helpu i ddod â llawenydd i deuluoedd sydd ei angen fwyaf y Nadolig hwn.
Mae pob punt yn mynd yn uniongyrchol i Achos Siôn Corn i brynu anrhegion i blant na allai fod ganddynt ddim byd fel arall. Dyma enghraifft arall o'n gwaith fel arweinydd cymunedol, yn hyrwyddo achos y rhai sy'n byw yn ein trefi a'n pentrefi ond sy'n llai ffodus na ni ein hunain ac sydd angen cefnogaeth.
Ni ddylid byth dannodi cyrhaeddiad ac effaith y gwaith hwn, a dylai pawb sy'n gysylltiedig fod yn hynod falch.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru.
Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon.
Maent bob amser yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr iawn.
Diolch yn fawr,
Rob