Gwasanaeth treth gyngor ar-lein newydd i staff sy'n byw yn y Fro

30 Ionawr 2026

Mae staff sy'n byw yn y Fro yn cael eu gwahodd i gofrestru ar gyfer e-Filio, gwasanaeth newydd sy'n caniatáu i breswylwyr weld eu treth gyngor, budd-daliadau neu ardrethi busnes ar-lein. 

Mae'r gwasanaeth yn digideiddio'r wybodaeth hon, gan ei gwneud hi'n haws cael mynediad ac o fudd i'r amgylchedd. 

Mae'r gwasanaeth yn gost-effeithlon gan ei fod yn lleihau costau argraffu, postio a gweinyddol, gan ryddhau adnoddau ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. 

Mae hefyd yn lleihau gwaith prosesu, gan leihau'r risg o wallau ac oedi, tra bod llai o ddefnydd papur ac allyriadau carbon yn golygu ei fod yn fwy gwyrdd, sy'n cyd-fynd a tharged Prosiect Sero y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. 

Mae e-Filio yn darparu mynediad ar unwaith i filiau a hanes talu unrhyw bryd, unrhyw le. Gellir argraffu biliau hefyd heb fod angen cysylltu ag adrannau berthnasol y Cyngor. 

I ddechrau defnyddio e-Filio, ewch i wefan y Cyngor, chwiliwch am Wasanaethau Ar-Lein a chlicio Cofrestru am gyfrif, neu cliciwch ar y ddolen hon Gwasanaethau Ar-Lein.