Cost of Living Support Icon

Talu

Talwch am wasanaethau Cyngor Bro Morgannwg ar-lein

 

Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau)

Er mwyn talu tocyn parcio, ewch i wefan PPCC:

 

Talu HTC

Talu ar-lein

Gallwch dalu am y gwasanaethau canlynol ar-lein:

  • Casglu gwastraff gardd
  • Rhandiroedd
  • Ffi Rheoliadau Adeiladu
  • Ardrethi Busnes
  • Rhent Tŷ Cyngor
  • Treth y Cyngor
  • Hysbysiad Cosb Benodedig
  • Rhyddid Gwybodaeth / Rheoli Gwybodaeth Amgylcheddol
  • Costau Tir
  • Costau Gwasanaeth Lesddeiliad
  • Ffi Trwydded 
  • Anfonebau Amrywiol
  • Morgais
  • Ffi Cais Cynllunio

 

Nodwch ar gyfer rhandiroedd, ffi rheoliadau adeiladu, rhyddid gwybodaeth/rheoli gwybodaeth amgylcheddol, bridiant dir, trwyddedu a chynllunio mae angen dewis 'incwm arall' o'r ddewislen. 

 

Mae’n system daliadau ar-lein yn caniatáu i chi ychwanegu mwy nag un gwasanaeth neu adnodd cyn penderfynu eu prosesu.

 

Talu ar-lein

 

  • Sefydlu Debyd Uniongyrchol
    Gallwch fewnbynnu cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol ar-lein bellach.

    Gallwch fewnbynnu cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol ar gyfer Treth Cyngor neu gyfraddau busnes ar-lein isod.

     

    Sefydlu Debyd Uniongyrchol

     

  • Mesurau Diogelwch Taliadau

    Cafodd mesurau diogelwch ychwanegol eu cyflwyno ar gyfer taliadau a wnaed gyda chardiau debyd neu gredyd

     

    Taliadau Rhyngrwyd

    Yn ogystal â’r cod diogelwch, gofynnir i chi:

    • Roi rhif eich tŷ os oes gennych chi un. Os nac oes, symudwch i’r blwch nesaf.
    • Rhowch eich cod post llawn. Mae’r blwch hwn yn orfodol ac mae’n ofynnol ar gyfer diogelwch ychwanegol. Os na fyddwch yn rhoi cod post dilys, ni allwn dderbyn eich taliad.
    • Caiff y cod post hwn ei roi fel CF63 4RU neu CF634RU. Bydd y system yn derbyn y ddwy ffordd.

     

    Llinell Ffôn Awtomataidd

    • Gofynnir i chi roi’r cod diogelwch, sef y tri rhif olaf ar gefn eich cerdyn debyd neu gredyd.
    • Gofynnir i chi roi rhifau eich cod post, e.e. os mai CF5 4RU yw eich cod post, mae angen i chi roi 54. Os mai CF63 4RU yw eich cod post, mae angen i chi roi 634. 

     

    Noder: Mae’n rhaid i’r cod post a ddefnyddir fod yn perthyn i ddeiliad y cerdyn h.y. y cyfeiriad yr anfonir/ y cofrestrir cyfriflen y cerdyn iddo.

  • Talu yn swyddfeydd y Cyngor

    Gellir gwneud taliadau yn swyddfa’r ariannwr yn y Barri yn rhad ac am ddim wrth gyflwyno bil â barcod arno. 

     

    Y Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU 

    Dydd Mawrth a Dydd Iau 10:00am - 2:00pm

     

  • Talu drwy’r post

    Anfonwch eich taliad at: 

    Y Cyfarwyddwr Cyllid,

    Cyngor Bro Morgannwg, 

    Y Swyddfeydd Dinesig, 

    Holton Road, 

    Y Barri 

    CF63 4RU

     

    Mae sieciau ac archebion post yn daladwy i ‘Cyngor Bro Morgannwg’ a dylent fod wedi’u croesi. Ni ddylent gael eu cyfeirio at swyddogion unigol. 

  • Talu yn Swyddfa’r Post neu drwy PayPoint

    Gellir talu pob bil (ac eithrio morgeisi) mewn lleoliadau manwerthu lleol sy’n arddangos logo Swyddfa’r Post neu PayPoint yn ystod oriau busnes arferol, yn rhad ac am ddim, gan ddefnyddio’r barcod ar eich bil. 

     

  • Talu drwy’ch banc
    Gallwch wneud taliad uniongyrchol i fanc Cyngor Bro Morgannwg drwy system fancio ar-lein neu gredyd banc giro.

     

     

    Banc Lloyds (Cangen Dociau’r Barri)

    140b Holton Road

    Y Barri

    Bro Morgannwg

    CF63 4TZ

     

    Cod didoli: 30-90-52

    Rhif cyfrif: 00006327

    Enw’r cyfrif: Vale of Glamorgan Council General Fund 

     

    Defnyddiwch gyfeirnod eich bil fel cyfeirnod i gyd-fynd â’ch taliad. 

  • Talu dros y ffôn

    Gallwch chi dalu drwy siarad ag aelod o staff o ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng 8:00am a 6:00pm. 

     

    Cardiau a dderbynnir: Visa Debit, Maestro, Solo, Mastercard, Visa, a Visa Electron: 

    • 01446 700111