Cost of Living Support Icon

Treth y Cyngor

Treth ar eiddo â chyfran bersonol iddi yw Treth y Cyngor. Mae cyfran yr eiddo yn seiliedig ar fand gwerthuso’r eiddo. Mae’r gyfran bersonol yn cloriannu nifer yr oedolion dros 18 oed sy’n byw yn y cartref, ac yn caniatáu gostyngiad mewn rhai amgylchiadau.

 

Cyflwyno Ymholiad Treth Gyngor

Os oes gennych ymholiad am eich bil, cyfeiriwch at ein Cwestiynau Cyffredin. Os nad oes ateb i’ch ymholiad yn y Cwestiynau Cyffredin, gofynnwch i'n tîm Treth Gyngor yn uniongyrchol drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

 

Defnyddiwch y botwm isod i gyflwyno Ymholiad Treth Gyngor i'r tîm. Nodwch nad ydym bellach yn prosesu e-byst ad hoc a rhaid i chi nawr lenwi'r ffurflen ymholiad er mwyn i'ch gwybodaeth gael ei phrosesu a/neu gael ateb i’ch cwestiwn.

 

Cyflwyno Ymholiad Treth Gyngor 

 

Gwnewch Apwyntiad yn y Swyddfeydd Dinesig

Gallwch nawr wneud apwyntiad ar-lein er mwyn ymweld ag ymgynghorydd yn y Swyddfeydd Dinesig. Gallwch drefnu apwyntiad 14 diwrnod o flaen llaw.

 

Mae cownter ymholiadau’r Dreth Gyngor hefyd ar gael ar hyn o bryd i drafod eich cyfrif, heb apwyntiad, rhwng 10am a 2pm ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener.

 

Wrth gyrraedd, dilynwch y system giwio sydd mewn lle. Bydd ymgynghorydd yn gwirio eich apwyntiad ac yn eich tywys i’r ystafell gyfweld pan fydd ar gael. Dewch â'r holl ddogfennau angenrheidiol sy’n berthnasol i’ch ymholiad gyda chi, a bydd hyn yn helpu'r cynghorydd i reoli eich penodiad yn effeithlon.   

 

Gwneud Apwyntiad

 

Mae pob apwyntiad wyneb yn wyneb am 20 munud. Dylech gyrraedd dim mwy na 5 munud cyn eich apwyntiad. Os oes angen apwyntiad hirach arnoch, ffoniwch y swyddfa a gallwn drefnu hyn ar eich rhan:

  • 01446 729556

 

Sylwer: Wrth wneud eich apwyntiad, bydd y wybodaeth gyswllt a roddoch yn cael ei chadw am 21 diwrnod ar gyfer Cynllun Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru er mwyn cyfyngu lledaeniad Covid-19.

 

 

Talwch eich treth gyngor yn hawdd.

 

 

Nodwch

Mae’r adran hon yn un ar wahân i adran Gwasanaethau Etholiadol. Felly, hyd yn oed os ydych chi wedi hysbysu adran Treth y Cyngor, mae’n rhaid i chi gofrestru â’r adran  Gwasanaethau Etholiadol yn ogystal.