Cost of Living Support Icon

Gostyngiadau Treth Cyngor

Os mai dim ond un oedolyn sy’n byw mewn eiddo, yna mae’n bosib cael gostyngiad o 25%.

 

Nid yw pobl sy’n perthyn i’r grwpiau canlynol yn cael eu cynnwys yn y nifer o oedolion sy’n byw mewn tŷ.

    • Myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr nyrsio, prentisiaid a hyfforddeion Hyfforddiant Ieuenctid.

    • Cleifion sy’n preswylio mewn ysbytai

    • Pobl sy’n derbyn gofal mewn cartrefi gofal

    • Pobl â nam meddyliol difrifol

    • Pobl sy’n aros mewn rhai mathau o hostelau neu llochesi nos

    • Pobl 19 oed sydd yn yr ysgol neu newydd adael

    • Gweithwyr gofal sy’n gweithio am gyflog isel, i elusennau fel arfer

    • Pobl sy’n gofalu am rywun ag anabledd sy heb fod yn ŵr neu wraig, partner, neu blentyn o dan 18

    • Aelodau'r fyddin ar ymweliad a rhai sefydliadau rhyngwladol

    • Aelodau cymunedau crefyddol (mynachod a lleianod)

    • Pobl sydd yn y carchar (ar wahân i’r sawl sydd yn y carchar am beidio talu Treth Cyngor neu ddirwy.

 

Gwneud cais am ostyngiad unigol

 

Gwneud cais am eithriad

 

Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch ag Adran Treth y Cynghorau:

 

  • 01446 729556

 

Pobl ag anableddau

Os ydych chi, neu unrhyw un sy’n byw gyda chi, angen ystafell, ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol, neu fwy o le yn eich eiddo i ddiwallu anghenion sy’n codi oherwydd anabledd, mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio gostyngiad yn eich Treth Cyngor.

 

Mae’n bosib y bydd y gostyngiad yn golygu y bydd eich eiddo’n cael ei symud i lawr un band i’r band sydd islaw eich band presennol. Os ydy’r eiddo yn perthyn i’r band isaf un (A) yna mae’n bosib y byddwch yn cael gostyngiad. Mae’r gostyngiadau yma’n sicrhau na fydd pobl anabl yn talu mwy o dreth oherwydd bod angen mwy o le arnyn nhw oherwydd eu hanabledd.

 

Cewch ragor o fanylion gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Ffurflen gais ar gyfer cael gostyngiad yn Nhreth y Cyngor am fod y person wedi gorfod addasu’r eiddo oherwydd anabledd.