Cost of Living Support Icon

Eiddo gwag ac wedi ei eithrio

Mae rhai mathau o eiddo gwag yn eiddo eithriedig (manylion isod)

Eithriadau

Mae rhai anheddau wedi'u heithrio, gan gynnwys eiddo a feddiannir gan fyfyrwyr yn unig, pobl â nam meddyliol difrifol, pobl o dan 18 oed ac atodiadau a feddiannir gan berthynas dibynnol. Mae eiddo gwag hefyd wedi'u heithrio, sy'n cael eu dosbarthu fel y rhai sy'n: 

  • eiddo diddodrefn (eithriedig am gyfnod hyd at 6 mis)

  • eiddo sy’n perthyn i elusen ((eithriedig am gyfnod hyd at 6 mis)

  • eiddo mae ei adeiledd yn cael ei yn sylweddol neu sydd angen gwaith trwsio mawr arno (eithriedig am gyfnod hyd at 12 mis cyn belled fod yr eiddo’n ddiddodrefn)

  • eiddo a adawyd yn wag gan rywun sydd wëid mynd i’r carchar, neu sydd wedi symud allan o’r eiddo i dderbyn gofal personol mewn ysbyty, cartref neu unrhyw le arall

  • Aros i brofiant neu lythyrau gweinyddu gael eu caniatáu (ac am hyd at chwe mis ar ôl hynny) ar yr amod nad oes unrhyw berson arall y codir tâl amdano 

  • eiddo sydd wrthi’n cael neu sydd wedi cael ei adfeddiannu

  • eiddo sy’n rhan o gyfrifoldebau ymddiriedolwr methdalwr

  • eiddo gwag y gwaherddir unrhyw un rhag byw ynddo gan y gyfraith

  • eiddo gwag y bydd gweinidog yn symud i mewn iddo.

 

 

Mae barics milwyr a llety cyplau priod yn eithriedig hefyd; bydd y bobl sy’n byw ynddyn nhw’n cyfrannu at gost gwasanaethau lleol drwy drefniant arbennig. 

 

Premiymau

 

Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023 cytunwyd, yn unol ag adran 12a a 12b o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y'i mewnosodwyd gan Adran 139 Deddf Tai (Cymru) 2014, y byddai Premiwm Treth y Cyngor o 100% yn dod i rym ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn (Gwag Hirdymor) am gyfnod o 12 mis neu fwy. Yn ogystal, cytunwyd o 1 Ebrill 2024 y byddai Premiwm Treth y Cyngor o 100% yn dod i rym ar gyfer eiddo sy'n cael ei ystyried yn cael ei feddiannu o bryd i'w gilydd (y cyfeirir atynt yn aml fel ail gartrefi). 

  

Cafodd y penderfyniadau hyn eu hailddatgan yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2024. Yn y cyfarfod hwn, cytunwyd hefyd y byddai Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag a heb ddodrefn a oedd wedi aros felly am 24 mis neu fwy yn cynyddu i 150% o 1 Ebrill 2024 a bod eiddo a oedd wedi bod yn wag am 36 mis neu fwy yn destun premiwm o 200% o 1 Ebrill 2025.

  • Dosbarth 1: Anheddau sy'n cael eu marchnata i’w gwerthu neu pan fo cynnig i brynu'r annedd wedi’i dderbyn. Mae’n rhaid i'r eiddo fod yn cael ei farchnata am bris rhesymol o'i gymharu ag eiddo tebyg yn yr un ardal ac mae gan yr eithriad derfyn amser o flwyddyn (yn berthnasol i eiddo gwag hirdymor a rhai a feddiannir o bryd i’w gilydd)

  • Dosbarth 2: Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gosod neu pan fo cynnig i'w rhentu wedi’i dderbyn. Mae’n rhaid marchnata'r annedd i'w osod am rent rhesymol o'i gymharu ag eiddo tebyg yn yr un ardal ac mae gan yr eithriad derfyn amser o flwyddyn (yn berthnasol i eiddo gwag hirdymor a rhai a feddiannir o bryd i’w gilydd)

  • Dosbarth 3: Anecsau sy'n ffurfio rhan o'r brif annedd neu'n cael eu trin fel rhan o'r brif annedd (sy'n berthnasol i eiddo gwag hirdymor ac eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd)

  • Dosbarth 4: Anheddau a fyddai'n unig neu'n brif breswylfa rhywun pe na baent yn byw yn llety'r lluoedd arfog (yn berthnasol i eiddo gwag hirdymor a rhai a feddiannir o bryd i’w gilydd)

  • Dosbarth 5: Lleiniau carafanau a feddiannir ac angorfeydd cychod (sy'n berthnasol i eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd yn unig)

  • Dosbarth 6: Cartrefi tymhorol neu lety gwyliau lle gwaherddir meddiannaeth barhaol neu gydol y flwyddyn (sy'n berthnasol i eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd yn unig)

  • Dosbarth 7: Anheddau sy'n gysylltiedig â gwaith (sy'n berthnasol i eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd yn unig)


Os ydych wedi gorfod talu Premiwm Treth Gyngor ond credwch fod eich eiddo yn perthyn i un o'r dosbarthiadau uchod, cwblhewch ein ffurflen ymholiad cyffredinol Treth y Cyngor sy’n cynghori o dan ba ddosbarth o eiddo mae eich un chi'n disgyn, ac yn darparu tystiolaeth ategol.