Gostyngiad Band y Dreth Gyngor
Os bydd arnoch chi neu rywun sy’n byw gyda chi, angen ystafell neu ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol, neu le ychwanegol yn eich eiddo i fodloni anghenion arbennig sy’n deillio o anabledd, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad yn eich Treth Gyngor.
Gellir gostwng y bil i gyfateb ag eiddo yn y band yn union o dan y band a ddangosir yn y rhestr brisio. Os bydd eiddo yn y band isaf (A) mae’n bosibl y gellid cael gostyngiad. Mae’r gostyngiadau hyn yn sicrhau nad yw pobl anabl yn talu mwy o dreth gan fod angen gofod ychwanegol oherwydd anabledd.
Gall Cyngor Bro Morgannwg roi’r manylion i chi.
Ffurflen gais am ostwng band unigolyn y mae ei eiddo wedi'i addasu ar gyfer anabledd
Gofynnwch am brawf adnabod cyn caniatáu mynediad – mae ein holl swyddogion yn cario prawf adnabod
Er diogelwch ein swyddogion, bydd angen i chi roi unrhyw gŵn (ac eithrio cŵn cymorth) mewn ardal ar wahân yn ddiogel am gyfnod yr ymweliad.