Cost of Living Support Icon

Atafael Enillion

Bydd gorchymyn Atafael Enillion yn cael ei gyflwyno i gyflogwr gan y cyngor pan na fydd cwsmer wedi talu ei dreth cyngor.

 

Dim ond ar ôl i orchymyn atebolrwydd gael ei roddi gan Lys yr Ynadon y gellir cyhoeddi’r gorchymyn atafael ar gyfer y ddyled sy’n daladwy. Dogfen gyfreithiol yw’r gorchymyn Atafael Enillion, ac mae’n rhoi gorfodaeth ar y cyflogwr i dynnu arian yn uniongyrchol o gyflog neu dâl y cwsmer a’i anfon at y Cyngor nes bod y symiau perthnasol wedi eu talu’n llawn. 

 

Dyletswyddau Cyflogwyr

  • Mae’n rheidrwydd ar y Cyflogwr i weinyddu’r gorchymyn yn unol â’r Canllawiau a’r Rheoliadau

  • Gallai methiant ar ran y cyflogwr i ddidynnu’r arian olygu y bydd achos yn cael ei ddwyn yn ei erbyn ac y byddai dirwy yn daladwy

  • Rhaid gordalu bob tro mae arian yn cael ei ddidynnu wrth y gweithiwr

  • Uchafswm o ddau orchymyn yn unig sy’n medru bod mewn grym yn ystod yr un cyfnod

  • Rhaid hysbysu’r cyngor yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod os nad yw’r dyledwr yn dal i weithio i chi. Os bydd cyfnod cyflogaeth y dyledwr gyda chi’n dod i ben tra bo swm yn weddill ar y gorchymyn, rhaid i chi hysbysu’r cyngor yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i ddyddiad gadael y dyledwr. Gallai methu gwneud hyn olygu bod yn rhaid i chi dalu dirwy.

  • Gall cyflogwr ddidynnu £1 am bob gorchymyn tuag at gostau gweinyddol bob tro bydd arian yn cael ei dynnu o gyflog gweithiwr. 

 

Caiff Atafaeliadau Enillion eu tynnu fel canran o enillion net. Nid oes modd ei drafod am y gosodir y gyfradd gan y Llywodraeth Ganolog, nid gan y Cyngor. 

Trothwyon enillion wedi eu diweddaru ar gyfer gorchmynion atafaelu enillion

O 1 Ebrill 2022 mae pob gorchymyn atafaelu enillion yn destun trothwyon enillion sydd wedi eu diweddaru:

 

 

Bydd unrhyw orchmynion atafaelu enillion a oedd yn weithredol cyn 1 Ebrill 2022 yn parhau ar y cyfraddau blaenorol.

Taliadau Banc 

Gellir gwneud taliadau i gyfrif banc y Cyngor:

 

Lloyds Bank (Cangen Dociau’r Barri)
140b Holton Road
Y Barri
Bro Morgannwg

CF63 4TZ

 

Cod didoli: 30-90-52
Rhif y Cyfrif: 00006327
Enw’r cyfrif:
 Vale of Glamorgan Council General Fund

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi rhif cyfrif Treth Cyngor eich gweithiwr.

 

Dylai sieciau fod yn daladwy i: 'Cyngor Bro Morgannwg', ac wedi eu croesi. Ni ddylent fod yn daladwy i swyddog unigol.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu rhif cyfrif Treth Cyngor eich gweithiwr ar gefn y siec.