Cost of Living Support Icon

Cynorthwyydd Manwerthu

مساعد التجزئة

 

Ynglŷn â gweithio fel cynorthwyydd manwerthu

حول العمل كمساعد بيع بالتجزئة

 

  • Beth mae cynorthwyydd manwerthu yn ei wneud?

    ماذا يفعل مساعد البيع بالتجزئة

    Mae cynorthwyydd manwerthu yn gweithio mewn siop. Mae'n cyflawni amrywiaeth o dasgau:

    مساعدو التجزئة يعملون في المتجر .ويؤدون مهام متنوعة

     

    • ail-lenwi silffoedd i wneud yn siŵr bod popeth ar gael

      .اعادة تعبئة الرفوف للتأكد من توفر جميع المنتجات

    • helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i eitemau maen nhw’n chwilio amdanyn nhw

      .مساعدة العملاء للبحث عن العناصر التي يبحثون عنها

    • cymryd taliad gan gwsmeriaid

      .استلام المدفوعات من العملاء

     

    Fel arfer mae cynorthwywyr manwerthu yn rhan o dîm sy'n helpu i wneud y siop mor groesawgar â phosib i gwsmeriaid. Mewn siop fawr, efallai y bydd gan gynorthwyydd manwerthu rôl benodol, er enghraifft gweithio ar y til talu. Mewn siop fach, bydd yn rhaid i gynorthwyydd manwerthu gyflawni amrywiaeth o rolau. Gall hyn gynnwys cadw'r siop yn lân.

    عادة ما يكون مساعدو البيع بالتجزئة جزءًا من فريق يساعد في جعل المتجر جذابًا قدر الإمكان للعملاء

    في المتاجر الكبيرة ، قد يكون لمساعد التجزئة دور محدد ، على سبيل المثال: العمل في جهاز  المدفوعات النقدية في المتاجر الصغيرة ، سيتعين على مساعد البيع بالتجزئة القيام بمجموعة متنوعة من الأدوار.  يمكن أن يشمل ذلك الحفاظ على نظافة المتجر

     

    Gan fod siopau yn gallu bod ar agor saith diwrnod yr wythnos - ac maen nhw'n aml ar agor gyda'r nos - mae angen i gynorthwywyr manwerthu fod yn hyblyg ynglŷn â phryd maen nhw'n gweithio. Mae angen staff ar rai siopau yn y nos hefyd, pan fyddan nhw'n cynnal tasgau pwysig fel ail-lenwi'r silffoedd.

    نظرًا لأن المتاجر يمكن أن تفتح سبعة أيام في الأسبوع - وغالبًا ما تكون مفتوحة في المساء - يحتاج مساعدو التجزئة إلى التحلي بالمرونة بشأن أوقات عملهم.  تحتاج بعض المتاجر أيضًا إلى موظفين في الليل ، عندما يقومون بمهام مهمة مثل إعادة تخزين الرفوف

     

    Mae iechyd a diogelwch yn bwysig iawn mewn unrhyw weithle. Mae'n hanfodol meddwl sut y byddech chi'n cadw'ch amgylchedd gwaith yn ddiogel - i chi ac i gwsmeriaid y siop. Gofalwch rhag peryglon baglu, a gwyliwch am blant ifanc.

    الصحة والسلامة أمران مهمان للغاية في أي مكان عمل.  من الأهمية بمكان التفكير في كيفية الحفاظ على بيئة عملك آمنة - لنفسك ولعملاء التسوق.  ترقب المخاطر  ، وراقب الأطفال الصغار

  • Beth yw’r cyfleoedd gyrfa?

    ما هي فرص العمل؟

     

    Mae llawer o reolwyr siopau wedi dechrau eu gyrfaoedd fel cynorthwywyr manwerthu ac yna wedi symud ymlaen i rolau uwch o fewn eu cwmni. Mae cwmnïau mawr yn hoffi cael enw da am ddyrchafu o fewn eu gweithlu presennol. Mae hyn yn helpu gyda recriwtio.

     العديد من مديري المتاجر بدأوا حياتهم المهنية كمساعدين للبيع بالتجزئة ثم تقدموا بعد ذلك إلى مناصب عليا داخل شركاتهم.  تحب الشركات الكبيرة أن تتمتع بسمعة طيبة في الترويج من داخل القوى العاملة الحالية لديها.  هذا يساعد في التوظيف

     

    Mewn siop fach, eich rheolwr yw'r perchennog fel arfer. Mae hyn yn golygu y bydd diddordeb personol ganddyn nhw yn eich datblygiad proffesiynol. Efallai y byddan nhw'n cynnig gwaith mwy diddorol a chyfrifol i chi, ar ôl i chi ddangos eich potensial.

    في المتاجر الصغيرة ، عادة ما يكون مديرك هو المالك.  هذا يعني أنهم سيهتمون شخصيًا بتطورك المهني. قد يعرضون عليك عملاً أكثر تشويقًا ومسؤولية ، بمجرد أن تظهر لهم إمكانياتك

  • Beth yw fy hawliau a chyfrifoldebau?

    ماهي حقوقي ومسؤولياتي

     

    Yn y DU, y llywodraeth sy’n gosod yr isafswm cyflog cenedlaethol. Rhaid i bob busnes dalu hyn.

    في المملكة المتحدة ، يتم تحديد الحد الأدنى الوطني للأجور من قبل الحكومة.  يجب على جميع الشركات دفع هذا المبلغ

     

    Mae gan bob swydd safonau y mae'n rhaid eu cyrraedd er mwyn gwneud y gwaith yn dda. Pan fyddwch chi'n dechrau swydd, bydd eich cyflogwr yn esbonio'r rhain yn glir i chi ac yn dweud wrthych sut y bydd yn eich cefnogi i gwrdd â'r safonau hyn.

    جميع الوظائف لها معايير يجب الوفاء بها للقيام بالمهمة بشكل جيد.  عندما تبدأ العمل ، سيشرح لك صاحب العمل هذه المعايير بوضوح ويخبرك كيف سيدعمك للوفاء بها 

     

    Mae pob swydd yn cynnwys contract sy'n rhestru pethau fel:

    :تتضمن جميع الوظائف عقدًا يتضمن أشياء مثل 

    • eich cyfrifoldebau

      مسؤولياتك

    • cyfrifoldebau eich cyflogwyr

      مسؤوليات أصحاب العمل الخاصة بك

    • nifer yr oriau y mae’n rhaid i chi eu gweithio bob wythnos

      عدد ساعات عملك كل أسبوع

     

    Dyma eich amddiffyniad hefyd. Er enghraifft, mae gan siop oriau agor; nid yw’n dymuno cau unrhyw bryd o fewn yr oriau hyn. Er mwyn cyflenwi absenoldeb staff eraill sydd ar wyliau neu'n sâl, efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi weithio oriau ychwanegol. Nid oes rheidrwydd arnoch i gytuno i hyn. Yn amlwg, rydych chi eisiau perthynas dda â'ch cyflogwr, ond weithiau efallai bod gennych chi gynlluniau eraill.

    هذه لحمايتك أيضًا ,على سبيل المثال

    متجر لديه ساعات عمل ولا يريد المتجر أن يغلق في أي من هذه الاوقات .  لتغطية الموظفين الآخرين الذين هم في إجازة أو مرضى ، قد يطلب منك صاحب العمل العمل لساعات إضافية.لست ملزمًا بالموافقة على هذا.من الواضح أنك تريد علاقات جيدة مع صاحب العمل الخاص بك ، لكن في بعض الأحيان قد يكون لديك خطط أخرى. 

 

Ymadroddion defnyddiol

مفردات مفيدة 

 

Helo

أهلا

 

Bore da

صباح الخير

 

Prynhawn da

مساء الخير

 

Noswaith dda

مساء الخير

 

Sut ’dych chi?

كيف حالك؟

 

Hwyl fawr

مع السلامه

 

Mwynhewch eich diwrnod

اتمنى لك يوما سعيدا

 

 

Geiriau defnyddiol

كلمات مفيدة

 

  • Cynorthwyydd Manwerthu
    مساعد التجزئه

     

    Oriau agor

    ساعات العمل

     

    Amser agor 

    أوقات فتح المحل

     

    Amser cau

    أوقات إغلاق المحل

     

    Rota staff

    خطة عمل الموظفين

     

    Dosbarthu

    التوصيل

     

    Stoc

    المخزون

     

    Ystafell stoc/tu cefn

    المخزن/ في الخلف

     

    Ystafell egwyl

    غرفة الاستراحة

     

    Gwirio stoc

    فحص المخزون

     

    Cadwyn o siopau

    سلسلة المتاجر

     

    Rhyddfraint

    الامتياز التجاري

     

    Siop annibynnol

    متجر مستقل

     

    Siop adrannol

    متجر مستقل

     

    Gwasanaeth cwsmeriaid

    خدمة العملاء

     

    Cwsmer

    الزبون

     

    Rheolwr

    المدير

     

    Til talu

    تسجيل خروج

     

    Eil

    ممر

     

    Ariannydd

    امين صندوق

     

    Silff

    رف

     

    Troli

    عربة

     

    Basged

    سلة

     

    Bag siopa

    سلة تسوق

     

    Derbynneb

    إيصال دفع أو فاتورة