Cost of Living Support Icon

Wedi’ch drysu gyda Seddi Car Plant?

 


17 Ionawr 2017

 

Efallai bydd nifer o rieni wedi drysu gan y newyddion y gall rheoliadau i seddi clustogau newid cyn bo hir – ym mis Mawrth o bosibl. 

 

Mae Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, yn esbonio'r sefyllfa bresennol: “Bydd unrhyw newidiadau ond yn berthnasol i’r seddi clustogau di-gefn newydd sy’n dod ar y farchnad, nid y rheiny sydd eisoes yn cael eu defnyddio ac sy’n diwallu safonau diogelwch.  

 

“Ni fydd rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, sy'n defnyddio seddi clustogau sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau presennol yn torri’r gyfraith os byddant yn parhau i’w defnyddio ar ôl y newid i’r rheol. Ni fydd angen i chi brynu sedd glustog arall i ddiwallu’r newid hwn.” 

 

Dan y rheoliadau newydd, bydd seddi clustogau di-gefn sydd ar werth ond yn cael eu cymeradwyo i blant dros 125cm ac sy’n pwyso mwy na 22kg. Caiff y rhain eu labelu’n glir fel dim ond yn addas i blant dros yr uchder a’r pwysau hynny.  

 

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn croesawu’r rheoliadau newydd, gan fod seddi di-gefn i blant yn cynnig llawer llai o amddiffyniad mewn gwrthdrawiad. 


Pwysleisiodd Susan Storch pa mor bwysig yw dewis sedd car plentyn yn ofalus: “Mae’r gyfraith yn nodi bod rhaid i’r holl blant sy’n teithio yn sedd ffrynt neu gefn unrhyw gar, fan neu gerbyd nwyddau ddefnyddio’r sedd car cywir nes eu bod yn cyrraedd 135cm o ran uchder neu 12 oed (pa un bynnag maen nhw’n ei gyrraedd gyntaf).  Ar ôl hyn mae’n rhaid iddyn nhw ddefnyddio belt sedd oedolyn. Ychydig iawn o eithriadau sydd.” 

 

Mae www.childcarseats.org.uk yn rhoi manylion llawn a chyngor ar ddewis a gosod sedd car plentyn priodol, sy’n: 

 

  • Cydymffurfio â safon y Cenhedloedd Unedig, Rheoliad 44.04 (neu R 44.03) ECE neu â’r rheoliad i-Size newydd, R129. Edrychwch am y label marc 'E' ar y sedd
  • Addas i bwysau a maint eich plentyn
  • Wedi’i osod yn gywir yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  • Mewn cyflwr diogel 

Mae'n holl bwysig gwybod hanes sedd car eich plentyn. Dywedodd Susan Storch: “Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn argymell osgoi defnyddio sedd plentyn ail-law. Ni allwch fod yn siŵr o'i hanes (gall fod wedi bod yn rhan o wrthdrawiad) a hyd yn oed os yw hi’n edrych yn iawn, gallai fod wedi’i difrodi ar y tu mewn heb fod yn weladwy. Mae’r cyfarwyddiadau fel arfer ar goll gyda sedd ail-law ac efallai na fydd wedi’i dylunio i safonau cyfredol, yn cynnig llai o amddiffyniad i’ch plentyn.” 

 

Mae croeso i unrhyw un sydd angen cyngor pellach gysylltu â Diogelwch Ffyrdd Cymru ar: communication@roadsafetywales.org.uk.

 

I gael rhagor o wybodaeth ar fentrau diogelwch ffyrdd ledled Cymru dewch i www.roadsafetywales.org.uk