Cost of Living Support Icon

Tenis i ferched a golff cyn ysgol yn y flwyddyn newydd

 

04 Ionawr 2017

 

Bydd nifer o sesiynau chwaraeon newydd i bobl ifanc yn cychwyn ym mis Ionawr. Bydd y sesiynau gan Gyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol lleol ac yn rhan o gynllun yr awdurdod lleol i annog mwy o bobl ifanc nag erioed i gymryd rhan mewn chwaraeon yn 2017.

 

Young girl at tennis eventRhaglen tenis i ferched sy’n ddechreuwyr yw’r gyntaf, mae wedi ei chynllunio gan Judy Murray, mam seren y byd tenis, Andy Murray. Fel rhan o ymgyrch Merched yn Symud, mae Miss Hits yn targedu merched 5-8 oed ac mae'r sesiynau wedi eu cynllunio i sicrhau bod merched yn datblygu eu sgiliau tenis ond hefyd yn mwynhau ac yn gwneud ffrindiau.

 

Bydd y sesiwn wythnosol, awr o hyd yn digwydd yng Nghanolfan Hamdden y Barri o ddydd Mawrth 10 Ionawr, rhwng 4pm a 5pm a Penny o Glwb Tenis Cymunedol y Barri fydd yn ei harwain. Mae cwrs 6 wythnos yn costio £30. Dylai unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth, neu sydd am gadw lle gysylltu â Penny ar 07816 311263 neu e-bostio penny@valetennisacademy.co.uk.

 
Yr ail raglen yw’r rhaglen golff cyn ysgol i blant 2-4 oed. Mewn partneriaeth â Chlwb Golff Parc Cottrell, fel rhan o’u rhaglen Skratch, bydd y sesiynau’n digwydd dros gyfnod o 6 wythnos yr Yr Hyb, YMCA y Barri. Byddant yn cychwyn ar 12 Ionawr ac yn digwydd ar foreau Iau o 9.30am i 10.30am.

 
Caiff y babanod sy’n chwarae golff gyfle i ddatblygu eu sgiliau symud a'u cydsymud llaw a llygaid trwy sesiynau llawn hwyl a fydd yn costio £3.00. Dylai unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth neu sydd am gadw lle gysylltu â Gareth Bennett (Golf Professional) ar 07980 656659.


Am ragor o wybodaeth am weithgareddau chwaraeon newydd yn y Fro, dilynwch @VValesportsnews ar Twitter a The Vale Sports & Play Development Team ar Facebook.