Cost of Living Support Icon

Arolwg iechyd yn dangos bod gwefrwyr e-sigarennau'n peri risg sylweddol i gwsmeriaid

 

17 Ionawr 2017

 

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn rhoi cyngor i fusnesau i fod yn ofalus iawn wrth werthu gwefrwyr e-sigarennau i gwsmeriaid, ar ôl i dros hanner o'r cynnyrch a arolygwyd yn ddiweddar fethu profion diogelwch.

 

Prynwyd 17 o wefrwyr e-sigarennau o nifer o fanwerthwyr ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, a gwnaeth 10 ohonynt (58%) fethu prawf sgrinio cychwynnol.


Anfonwyd y gwefrwyr i gael mwy o brofion, ond gwnaethant fethu â bodloni gofynion Rheoliadau Offer Trydanol (Diogelwch) 1994 am nifer o resymau, gan gynnwys:


Marciau/cyfarwyddiadau

Gwneuthuriad

Amddiffyn rhag mynediad at rannau byw a sioc trydanol

Hyd y pin yn annigonol 


O ganlyniad i’r gwaith profi hyn, gwnaeth swyddogion gymryd yr holl wefrwyr nad oeddynt yn cydymffurfio o'r eiddo gan roi cyngor i fasnachwyr ynghylch beth ddylent edrych amdano wrth brynu stoc er mwyn osgoi gwerthu eitemau trydanol anniogel nad ydynt yn cydymffurfio.


Roedd hyn yn rhan o arolwg diogelwch ehangach a gynhaliwyd gan Benaethiaid Safonau Masnach Cymru, a ddaeth yn sgil arolwg a wnaethpwyd yng Nghaerdydd yn 2014/2015 a oedd yn nodi cyfradd fethu o 80 y cant ar gyfer gwefrwyr e-sigarennau. 


Cllr John (Gwyn)Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Cadeirydd y Cydbwyllgor Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

 
“Mae mwy o bobl yn defnyddio e-sigarennau fel dewis amgen i gynnyrch tybaco megis sigarennau a thybaco y mae modd ei rowlio â llaw, ac felly mae angen i ganlyniadau'r arolwg anfon neges o rybudd i'r busnesau am yr angen i fod yn wyliadwrus wrth ddewis cynnyrch i’w werthu i'r cyhoedd. 


“Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn ein cwsmeriaid rhag niwed, felly rwy'n gobeithio y bydd yr arolwg hwn hefyd o gymorth o ran codi ymwybyddiaeth ymysg ein preswylwyr ac yn rhoi sicrwydd bod ein tîm Safonau Masnach yn gweithio'n galed i sicrhau nad oes unrhyw gynnyrch anniogel yn cael ei werthu yn yr ardal."


Hoffai’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ofyn i gwsmeriaid ystyried y canlynol cyn prynu gwefrwr e-sigarennau: 


Oes ganddo enw brand neu logo gwneuthurwr neu Nod Masnachu ar yr offer? 

 

Oes ganddo enw neu rif model?

 

Oes ganddo nod CE?

 

A yw'r foltedd wedi’i nodi ac a yw'n 230 V neu'n fwy na hynny?

 

A oes cyfarwyddiadau i sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel?

 

Os ‘na' yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, gall y gwefrwr beri risg ac ni ddylid ei brynu.

 

Er mwyn adrodd am gynnyrch anniogel neu i gael cyngor ar eich hawliau wrth brynu cynnyrch neu wasanaethau, ffoniwch dîm Gwasanaeth Cwsmeriaid y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir er mwyn cael asesiad.