Cost of Living Support Icon

Bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Bro Morgannwg yn cyhoeddi asesiad lles drafft

 

17 Ionawr 2017

 

Yn dilyn ymgyrch ymgysylltu lwyddiannus a phroses casglu data sylweddol, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Bro Morgannwg wedi cyhoeddi Asesiad Lles drafft.

 

letstalkMae’r asesiad yn ystyried lles Bro Morgannwg gyfan ac yn gyfle gwirioneddol i helpu’r BGC ddysgu mwy am y cymunedau a'r bobl sy'n llunio'r Fro. 


Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: “Mae’r asesiad hwn yn adnodd gwerthfawr, un sy’n galluogi partneriaid ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus i gydweithio i wella lles ein cymunedau lleol – nid dim ond nawr, ond hefyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”


Cafodd yr asesiad ei lywio gan gyfoeth o ddata a gweithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys yr arolwg ‘Amser Siarad am Les’.

 

Mae’r asesiad yn cynnwys amrywiaeth o feysydd sy’n effeithio ar fywyd yn y Fro, y mae llawer ohonynt wedi’u nodi fel rhai cadarnhaol: mae’r amgylchedd naturiol amrywiol, lefelau cynyddol o dwristiaeth a lefelau troseddu is nag ardaloedd eraill yng Nghymru yn rhai o’r cryfderau sydd wedi’u cynnwys yn yr asesiad. 


Yn ei gyfanrwydd, roedd yr asesiad yn edrych ar les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.


Mae’r asesiad hefyd wedi nodi rhai meysydd lle gellid gwneud gwelliannau. Mae’r rhain yn cynnwys mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwella sut mae’r BGLl yn ymgysylltu â chymunedau lleol. Mae’r BGC eisoes yn ystyried sut y gall wneud gwahaniaeth yn y meysydd hyn. 


Mae'r BGLl am wybod beth mae trigolion yn ei feddwl am yr asesiad drafft.

 

Gallwch gwblhau holiadur byr ar yr un dudalen os ydych am rannu eich barn ar y canfyddiadau. Fel arall, gallwch ddweud eich dweud drwy sgwrs Facebook a fydd yn cael ei chynnal dros yr ychydig wythnosau nesaf.