Cost of Living Support Icon

Ffair Wirfoddoli

Mwynhewch antur newydd a dewch i’r Ffair Wirfoddoli Fawr

GVS

Bydd Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM) yn cynnal y Ffair Wirfoddoli FAWR ddydd
Mercher 18 Ionawr 2017 o 11am i 4pm yn Neuadd Goffa’r Barri. Dewch draw i’r Ffair Wirfoddoli Fawr i fwynhau antur newydd fel gwirfoddolwr ac agor y drws i fyd o gyfleoedd. 
 
Bydd yna amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys: Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Codi Arian, Gweinyddu, Cymorth Cyntaf, Llyfrgelloedd Cymunedol, Gyrru, Gwaith Ieuenctid, Cymorth i Blant a Theuluoedd a mwy...

Mae gwirfoddoli’n rhan fawr o fywyd ym Mro Morgannwg; mae’n ffordd dda o ddod i nabod eich cymuned, cwrdd â phobl newydd a chael profiadau newydd. Byddwch hefyd yn gwella’ch cyfle o ddod o hyd i waith â thâl.
 
Galwch draw ar y dydd - byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes.  
Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â GGM:

 

Rhif Elusen Gofrestredig 1163193