Cost of Living Support Icon

Gwirfoddoli yn arwain at gyflogaeth ar gyfer trigolyn ifanc y Fro

 

23 Ionawr 2017


Mae trigolyn IFANC Bro Morgannwg wedi cael ei swydd gyntaf ar ôl gweithio fel gwirfoddolwr trwy Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS).


Jordan OvenstoneDywedwyd wrth Jordan Ovenstone, o Sili, i gysylltu â GVS gan nad oedd profiad gwaith ganddo.


Mae GVS yn elusen annibynnol, un sydd â’r bwriad o ‘helpu i wella ansawdd bywyd' ar gyfer cymunedau trwy gefnogi gwirfoddolwyr. Mae'n rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar wirfoddoli.


Meddai Jordan y canlynol wrth siarad am ei brofiadau o wirfoddoli: “Dechreuais weithio fel gwirfoddolwr trwy GVS, a dechreuais weithio gyda Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg.


“Ces i brofiad mewn amrywiaeth o leoliadau – o Ganolfan Hamdden Colcot a Jenner Park i Gynllun Chwarae Tregatwg ac Ysbyty Tŷ Hafan. Rhodd y profiadau amrywiol hyn gyfrifoldeb, hyder a’r cyfle i mi weithio gyda phlant ag anghenion arbennig.


“Ar ôl gwirfoddoli, dilynais gyrsiau hyfforddi amrywiol hefyd: hyfforddiant Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, tystysgrif Hyfforddi Perfformwyr Anabl ac Arweinydd Tîm Chwaraeon.”


Aeth Jordan ymlaen i dynnu sylw at gefnogaeth barhaus Simon Jones a sut magwyd ei hyder trwy gydol ei amser fel gwirfoddolwr. Meddai: “Byddwn yn argymell gwirfoddoli i unrhyw berson ifanc, gan ei fod yn gwella eich CV ac yn rhoi profiad i chi mewn amgylchedd gweithio. Heb y cyfle hwn, mae'n bosibl na fyddwn i wedi gallu gweithio fel Cynorthwy-ydd Addysgu mewn ysgolion arbennig amrywiol ym Mhenarth a’r Barri.”


Meddai Simon Jones: “Mae Jordan yn enghraifft ardderchog o sut gall gwirfoddoli yn eich cymuned leol eich helpu i ennill amrywiaeth o sgiliau; mae’r rhain bob amser yn helpu wrth edrych am gyflogaeth. 


“Dangosodd Jordan ymrwymiad enfawr i roi o’i amser i helpu i gefnogi clybiau chwaraeon anabledd lleol yn rheolaidd. Rwy’n falch bod y profiadau y mae Jordan wedi’u cael wedi’i helpu i gael swydd.”


Am fwy o fanylion am GVS a’i wasanaethau, ffoniwch 01446 741706 neu e-bostiwch enquiries@gvs.wales. Gellir cael mwy o wybodaeth yn www.gvs.wales.