Cost of Living Support Icon

Sust Learning logo_colour

 

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Buddion i’r Gymuned

Fel rhan o’r rhaglen i adnewyddu ac adeiladu ysgolion newydd, bydd y contractwyr adeiladu yn cydweithio â phrosiectau trydydd sector a sector cyhoeddus i ddarparu amrywiaeth o fuddion cymunedol.  

 

Nod rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy y Cyngor yw darparu buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd hirdymor i ysgolion ac i’r gymuned ehangach.


Er mwyn cyflawni nodau ehangach y rhaglen, mae gofyn i’n contractwyr penodedig gyflawni amrywiaeth o dargedau buddion cymunedol.


Gosodir y targedau hyn fel rhan o’r broses gaffael ac maent yn gyson uwch na’r isafswm sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.


Mae targedau’n cynnwys;

  • Cefnogi busnesau bach lleol

  • Hyfforddi a gwella sgiliau newydd-ddyfodiaid i’r gweithlu

  • Digwyddiadau STEM mewn ysgolion

  • Cymorth cymunedol ehangach drwy nwyddau neu wasanaethau

 

Enghreifftiau o fuddion cymunedol a ddarperir ym Mand A 

Mae’r buddion cymunedol a ddarperir dan Fand A y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy eisoes wedi cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy Bro Morgannwg drwy gefnogi gwelliannau mewn lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae rhai o'r canlyniadau fel a ganlyn: 

  • Gwerth dros £12,000 o sesiynau ymgysylltu gydag ysgolion, gan alluogi plant i ddysgu am fyd cyffrous adeiladu

  • Gwerth 15,637 wythnos o gyflogaeth, prentisiaethau a hyfforddiant i newydd-ddyfodiaid, gan helpu mwy o bobl i fyd gwaith

  • Cefnogwyd sefydliadau lleol gydag offer neu lafur, gan greu mannau cymunedol gwell

St Cyres - Trees

 

 

Buddion cymunedol a ddarparwyd hyd yn hyn ym Mand B

Penodwyd contractwyr ar gyfer cynllun Cymuned Ddysgu Uwchradd Y Barri (CDdUB) ac ar gyfer cynllun Ysgol Gynradd Gorllewin y Fro (YGGF) yn 2020, ac mae buddion cymunedol yn cael eu darparu ochr yn ochr â gwaith adeiladu. Mae'r contractwyr a benodwyd ar gyfer Darpariaeth Gynradd y Bont-faen a Derw Newydd, a elwid gynt yn gynlluniau Canolfan Dysgu a Lles (CDLl) hefyd wedi bod yn cyfrannu at fuddion cymunedol ehangach. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau hyn, ewch i'r brif dudalen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

  

Rhwng mis Ionawr 2019 a mis Medi 2021, mae’r rhaglen wedi darparu:

  • Dros 13,226 o wythnosau y pen o Swyddi i Newydd-Ddyfodiaid

  • Dros 7,677 o wythnosau y pen o Hyfforddiant i Newydd-Ddyfodiaid

  • Dros 12,082 awr o ddigwyddiadau STEM mewn ysgolion

  • 35 o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi

  • 82% o wariant ar adeiladu yng Nghymru (ar gyfartaledd)

  • 85% o isgontractwyr wedi eu lleoli yng Nghymru

  • 50% o’r gweithlu yn dod o’r cod post lleol 

 

 Cylchlythyr 2024

 

 


Sust Learning logo_colour
wgovlogo