Cost of Living Support Icon

Prosiectau wedi’u cwblhau 

Mae cwblhau sawl adeilad ysgol newydd ym Mro Morgannwg yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau addysgol modern ac arloesol i'n myfyrwyr. Mae'r adeileddau modern hyn o’r radd flaenaf yn cynrychioli penllanw ymdrechion cynllunio, dylunio ac adeiladu helaeth gyda'r nod o greu amgylcheddau dysgu deinamig sy'n ysbrydoli creadigrwydd, yn meithrin rhagoriaeth academaidd, ac yn cefnogi anghenion esblygol ein myfyrwyr a'n haddysgwyr.

 

Mae'r adeiladau yn dyst i'n hymroddiad i wella'r profiad addysgol i bob dysgwr ym Mro Morgannwg. Mae pob cyfleuster wedi'i gynllunio'n ofalus i hwyluso addysgu a dysgu'r 21ain ganrif, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, mannau dysgu hyblyg, a nodweddion cynaliadwy sy'n hyrwyddo stiwardiaeth amgylcheddol yn unol â’n haddewid Prosiect Sero.

 

Diolch o galon i bawb sy'n ymwneud â dwyn ffrwyth y prosiectau hyn, gan gynnwys penseiri, adeiladwyr, addysgwyr ac aelodau’r gymuned y mae eu hymroddiad a'u cydweithrediad wedi gwneud y cyflawniadau hyn yn bosibl. Gyda'n gilydd, rydym yn llunio dyfodol disgleiriach ar gyfer addysg ym Mro Morgannwg, un lle gall pob myfyriwr ffynnu a llwyddo mewn amgylchedd dysgu ysbrydoledig a chefnogol.

 

Sustainable Ysgol St Baruc

Ysgol Gynradd Sant Baruc

Ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad cyfrwng Cymraeg gyda lle i 420 o ddisgyblion ynghyd â 48 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn yn ardal y Glannau yn y Barri. Mae'r datblygiad yn darparu adeilad modern dau lawr gyda chyfleusterau awyr agored gwych fel Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA), caeau chwaraeon glaswellt a mannau chwarae anffurfiol. Roedd y datblygiad hefyd yn cynnwys atebion carbon isel gan gynnwys Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer, Paneli ffotofoltäig a batris storio ar y safle, pwyntiau gwefru cerbydau trydan a stondinau beicio, i annog teithio llesol.

sustainable St Davids

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant

Datblygwyd ysgol gynradd dau lawr newydd ar safle presennol yr ysgol yn Nhregolwyn. Roedd y datblygiad yn caniatáu cynnydd mewn capasiti disgyblion yn yr ysgol i 210 o ddisgyblion cynradd ynghyd â 24 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn. Mae'r datblygiad yn darparu amgylchedd dysgu yr 21ain ganrif addas at y diben i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol. Mae'r datblygiad yn gydnaws â'i leoliad gwledig, wrth ddarparu Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA), neuadd fawr a mannau dysgu awyr agored i ddisgyblion. Mae ardal gynefin ac ardal plannu blodau gwyllt wedi’u cynnwys hefyd i gynyddu bioamrywiaeth y safle.

sustainable south point

Ysgol Gynradd Trwyn y De

Ysgol Gynradd Trwyn y De yw’r ysgol carbon sero-net (gweithredol) gyntaf yng Nghymru. Cafodd y ddarpariaeth ei hadleoli o ardal wledig Llancarfan. Caniataodd y datblygiad newydd gynnydd yng nghapasiti’r ysgol o 126 i 210 o ddisgyblion cynradd ynghyd â 24 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn. Mae’r ysgol newydd yn darparu cyfleusterau chwaraeon awyr agored gwell at ddefnydd disgyblion a’r gymuned. Mae caeau glaswellt, Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA) a mannau chwarae anffurfiol, yn ogystal ag ardaloedd cynefin ar hyd y ffin ac yn y nodweddion systemau draenio cynaliadwy i gynyddu bioamrywiaeth ar y safle. Mae'r mannau mewnol yn darparu ystafelloedd addysgu eang, man canolog ar gyfer addysgu a dysgu pellach a neuadd fawr a all ddarparu ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon a chyngherddau. 

St Nicholas CiW Primary School

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas

Mae adeilad ysgol un llawr newydd wedi'i adeiladu ar safle presennol ysgol Sain Nicolas. Dymchwelwyd yr adeilad presennol i wneud lle ar gyfer maes parcio mawr ei angen a man gollwng. Capasiti’r ysgol yw 126 o ddisgyblion cynradd ynghyd â darpariaeth feithrin newydd ar gyfer 16 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn. Mae'r adeilad newydd wedi rhoi lle rhagorol i'r disgyblion, lle mae defnydd dynodedig i fannau a lle gall disgyblion fanteisio ar fannau chwarae awyr agored gwych. Mae Cam 2 y datblygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a fydd yn darparu caeau chwaraeon glaswellt, ardal gynefin well a mannau chwarae anffurfiol, ynghyd â pharcio ar y safle, mannau gwefru cerbydau trydan a stondinau beiciau. 

Ysgol Gynradd Y Bont-faen

Mae'r datblygiad newydd yn darparu lle i 210 o leoedd cynradd a 24 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn ar gyfer ardal y Bont-faen, ar safle presennol Ysgol Gyfun y Bont-faen, gan greu ysgol drwodd i ddisgyblion 3-19 oed. Mae dyluniad yr ysgol yn arloesol ac yn barchus i'r dirwedd y mae'n sefyll ynddi, gan ddarparu mannau mewnol ac allanol i ddisgyblion ddysgu a thyfu. 

Derw Newydd

Mae’r safle hwn ar hen ddepo Court Road yn y Barri, wedi ei drawsnewid yn sylweddol, ac mae bellach yn cynnwys adeilad newydd wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer 60 o ddisgyblion 11-16 oed. Mae'r datblygiad yn darparu ar gyfer anghenion myfyrwyr sy’n galw am ddull mwy arbenigol o addysgu. Yn allanol, mae'r cyfleuster yn ymfalchïo mewn Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA), ardal cynefin bwrpasol, a gweithdai allanol sy'n hwyluso addysgu a dysgu mewn meysydd fel Dylunio a Thechnoleg, Mecaneg ac Adeiladu. Mae'r nodweddion allanol hyn yn ategu'r cyfleusterau mewnol trawiadol, sy'n cynnwys ystafell technoleg bwyd, canolfan ffitrwydd a stiwdio recordio cerddoriaeth, ynghyd ag ystafelloedd arbenigol gan gynnwys ystod o ystafelloedd un i un ac ardaloedd ymneilltuo, gan gyfrannu at brofiad addysgol cyfoethog.

Whitmore High School_Vale of Glamorgan CC_images by Nigel Forster Photography_070

Ysgol Uwchradd Whitmore

Mae'r datblygiad newydd hwn yn cynnwys adeilad ysgol uwchradd tri llawr ar safle ysgol gyfun bresennol. Mae'r ysgol uwchradd newydd hon yn darparu ar gyfer disgyblion rhyw cymysg rhwng 11 a 18 oed, gan ddarparu 1,100 o leoedd disgyblion, a 200 o’r rhain yn rhai chweched dosbarth. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys cyfleusterau chwaraeon dan do,

neuadd fawr ar gyfer cyngherddau a chynulliadau cymunedol, ardaloedd wedi'u tirlunio a gynlluniwyd ar gyfer dysgu, defnydd cymdeithasol ac anffurfiol, a chae pêl-droed 3G pob tywydd ynghyd ag Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA) y gall y gymuned ei archebu i'w ddefnyddio.

Ysgol Bro Morgannwg

Ysgol Uwchradd Bro Morgannwg

Prosiect adnewyddu ac ehangu'r ysgol bresennol oedd hwn. Roedd angen ehangu'r ysgol er mwyn cynyddu'r capasiti i 1,660 o ddisgyblion. Dymchwelwyd y neuadd chwaraeon a'r bloc addysgu presennol sy'n cynnwys mynedfa i staff/ymwelwyr ac adeilad gweinyddu newydd, neuadd chwaraeon newydd a bloc addysgu tri llawr cyfagos, estyniad i'r adran DaTh bresennol ac estyniad i'r ardal fwyta bresennol i greu cegin arlwyo newydd wedi’i chyfarparu’n llawn. Mae'r safle hefyd yn elwa ar Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA), cae 3G rygbi chwaraeon pob tywydd newydd, ac ardal gollwng/codi newydd i fysiau. 

pencoedtre (002)

Ysgol Uwchradd Pencoedtre

Nododd adeiladu Ysgol Uwchradd Pencoedtre drydydd datblygiad ysgol gyfun yn y Barri. Mae'r ysgol 4 llawr fodern hon yn darparu ar gyfer 1,100 o ddisgyblion ynghyd â chweched dosbarth ac mae cyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae'r nodweddion trawiadol yn cynnwys labordai gwyddoniaeth eang, stiwdios celf gydag ystafell odyn, stiwdios cerddoriaeth, ardal fwyta cynllun agored, ystafelloedd addysgu eang, a choridorau llydan.

 

Yng nghanol yr ysgol ar y llawr gwaelod mae'r brif neuadd a'r man bwyta, wedi'u cysylltu'n ddi-dor i hwyluso digwyddiadau amrywiol fel cyngherddau, gyda'r gegin arlwyo wedi’i chyfarparu’n llawn yn darparu lluniaeth. Mae amwynderau allanol yn cynnwys maes parcio pwrpasol ar gyfer staff ac ymwelwyr gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan, caeau glaswellt, Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd, a chae 3G hoci chwaraeon pob tywydd.