Cost of Living Support Icon

Prosiectau sydd ar y gweill

 

Mae Bro Morgannwg wedi cyffroi i gyhoeddi prosiectau adeiladu ysgolion a fydd yn chwyldroi'r dirwedd addysgol yn y rhanbarth. Gan gynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol addysg, bydd y prosiectau hyn yn darparu amgylcheddau dysgu blaengar i fyfyrwyr sydd wedi'u cynllunio i ysbrydoli creadigrwydd, cydweithio a rhagoriaeth academaidd.

 

Gyda phwyslais ar fodernrwydd ac arloesi, bydd yr adeiladau ysgol newydd yn cynnwys cyfleusterau a thechnoleg o'r radd flaenaf i gefnogi addysg yr 21ain ganrif. O ystafelloedd dosbarth rhyngweithiol i fannau penodol ar gyfer addysg, bydd gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau sy'n hyrwyddo sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau a llythrennedd digidol.

 

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn ystyriaeth allweddol wrth ddylunio ac adeiladu'r adeiladau newydd hyn. Drwy ddefnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a systemau ynni-effeithlon, nod y prosiectau yw lleihau eu heffaith amgylcheddol a chyfrannu at ddyfodol gwyrddach yn unol â’n haddewid Prosiect Sero.

 

Wrth i Fro Morgannwg gychwyn ar y daith drawsnewidiol hon, gwahoddir rhanddeiliaid i ddilyn y cynnydd a chymryd rhan wrth lunio dyfodol addysg yn y rhanbarth. Gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu sylfaen ar gyfer llwyddiant, gan sicrhau y gall pob myfyriwr ffynnu mewn amgylchedd dysgu deinamig a blaengar. Cadwch lygad am y newyddion diweddaraf wrth i'r prosiectau cyffrous hyn symud ymlaen tuag at eu cwblhau. 

Ysgol Y Deri

Nod y datblygiad ADY yw ehangu capasiti'r prif safle gydag adeilad dau lawr wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer anghenion arbenigol y disgyblion, gan greu hyd at 150 o leoedd i ddisgyblion. Yn nodedig, mae'r adeiledd yn ymgorffori to gwyrdd a wal werdd, gan gysoni ag amgylchoedd y safle. Y dyddiad cwblhau disgwyliedig ar gyfer yr adeilad yw haf 2025.

Sant Richard Gwyn

Bydd yr ysgol gyfun ffydd yn cael adeilad pedwar llawr newydd ar ei safle presennol, gan ddisodli'r adeiledd presennol. Bydd yr adeilad newydd yn darparu mwy o gapasiti i hyd at 1050 o ddisgyblion a bydd canolfan adnoddau arbenigol ar wahân ar gyfer hyd at 60 o ddisgyblion. Nod y prosiect cynaliadwy hwn yw cynyddu capasiti'r ysgol wrth leihau effaith ddatblygu. Mae'r dyluniad modern yn blaenoriaethu mannau croesawgar sydd wedi'u goleuo'n dda at ddefnydd yr ysgol a’r gymuned, a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2025.

Ysgol Iolo

Mae disgwyl i'r ysgol gynradd yn y Bont-faen gael adeilad ysgol newydd ar safle gwahanol, gan ehangu cynnig yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg leol o 210 o ddisgyblion i 420 o leoedd disgyblion, ynghyd â meithrinfa a all darparu ar gyfer hyd at 96 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn. Bydd y cyfleuster modern yn cynnwys mannau hyblyg, hygyrch at ddefnydd y gymuned, gan ddisodli'r adeiladau Fictoraidd presennol, sy'n wynebu heriau cynnal a chadw a phosibiliadau ehangu cyfyngedig.

 

sustainable community for learning banner