Cost of Living Support Icon

Sust Learning logo_colour

 

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Ecoleg

Yn rhan o'r rhaglen i adnewyddu ac adeiladu ysgolion newydd, bydd y tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a'r contractwyr adeiladu yn diogelu ac yn gwella ecoleg y safle. 

 

Pam mae diogelu a gwella ecoleg yn bwysig? 

Yn syml, mae ecoleg yn cyfeirio at y berthynas a'r rhyngweithio rhwng organebau a'u hamgylchedd.  Os yw ecosystem yn iach, mae cydbwysedd o ran y rhyngweithio hwnnw, sy'n golygu y gall planhigion ac anifeiliaid ffynnu.  Pan fydd ecosystemau'n ffynnu ac yn llawn rhywogaethau amrywiol, gall fod manteision i bobl, fel aer a dŵr glanach, gan greu mannau  hamdden ac ymlacio croesawgar, a helpu i atal llifogydd lleol.

O lefel leol i fyd-eang, mae ein hecosystemau'n cael eu bygwth gan newid yn yr hinsawdd, gorgloddio a defnydd gormodol ar adnoddau felly mae angen i bob un ohonom helpu i wella'r ecosystemau hyn lle bynnag y bo modd.  Gall gwaith adeiladu yn arbennig gael effaith negyddol wrth iddo gael ei wneud ac ar ôl iddo gael ei wneud os na rhoddir camau gofalus ar waith i ddiogelu'r bywyd gwyllt a'r cynefinoedd o fewn y safle a'r cyffiniau.

 

Heb ecosystemau lleol iach byddwn ni’n colli rhai o'n rhywogaethau mwyaf annwyl o fewn cenhedlaeth; gan gynnwys y draenog, y durtur, y wiwer goch a gwiberod.

 

Mae gwella cynefinoedd yn un o'n mesurau cynaliadwyedd i gyrraedd safon Rhagoriaeth BREEAM.  Mae hyn hefyd yn ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau fel corff cyhoeddus dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 drwy ddiogelu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau sy'n gweithio'n iach.

 

Felly, am yr holl resymau hyn mae'n bwysig diogelu a gwella ecoleg cymaint â phosibl o fewn ein safleoedd.

 

Sut gallwn ni helpu ecoleg ar ein safleoedd?

Arolygon

Mae prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion yn hanfodol i ddeall iechyd ecosystem a'r amgylchedd yn ei gyfanrwydd.  Maen nhw’n rhoi cipolwg i ni ar ba rywogaethau sy'n gwneud yn dda a pha rai sydd mewn perygl, ac maen nhw’n ein symud tuag at weithredu i ddiogelu bywyd gwyllt a'r cynefinoedd sy’n eu cynnal.

Plant ysgol fydd gwarcheidwaid y ddaear, a thrwy fod yn rhan o wyddoniaeth dinasyddion, gallwn ni eu haddysgu nhw i fod yn warcheidwaid gwych o’u hysgolion, eu cymunedau ehangach ac yn y pen draw, y blaned. 

 

Mae Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a chontractwyr adeiladu hefyd yn helpu'r amgylchedd gydag adeiladau ynni effeithlon, integreiddio deunyddiau carbon-isel, a chreu opsiynau ar gyfer teithio llesol i safleoedd ein hysgolion.

 

Mae'r tîm hefyd yn gwella ecoleg yn y Fro ehangach drwy gefnogi gerddi cymunedol. Dysgwch fwy drwy fynd i'n tudalen we ar fanteision cymunedol.

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi helpu i gynnal ecosystemau yn eich ardal chi, ewch i Ymddiriedolaethau Natur Cymru i gael llawer o syniadau.

 

Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (welshwildlife.org)

 

 

Sust Learning logo_colour

wgovlogo