Cost of Living Support Icon

Ydych chi’n bwriadu cynnal digwyddiad newydd ym Mro Morgannwg?

 

13 Ebrill 2017

 

Gallai hyd at £3,000 fod ar gael ar gyfer trefnwyr digwyddiadau sy'n bwriadu cynnal digwyddiadau newydd ac arloesol ym Mro Morgannwg.

 

BI Seaside showEr mwyn bod yn gymwys i gael yr arian, bydd angen i drefnwyr ddangos i banel y Cyngor y bydd eu digwyddiad yn bodloni meini prawf penodol – megis dangos y potensial i ddenu ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal. 

 

Yn flaenorol mae’r Cyngor wedi cefnogi nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus ac mae bellach yn awyddus i ehangu’r cynnig ar gyfer 2017/18 trwy roi cymorth i ddigwyddiadau annibynnol newydd er mwyn eu helpu i dyfu. 

 

Dylai trefnwyr sydd am wneud cais am arian ar gyfer digwyddiadau sy’n digwydd cyn diwedd mis Mawrth 2018 gysylltu â thîm Digwyddiadau Cyngor Bro Morgannwg trwy e-bostio sejones@valeofglamorgan.gov.uk neu drwy fynd i www.visitthevale.com/cy/events

 

Adolygir yr holl geisiadau am grantiau ar gyfer digwyddiadau yn rheolaidd gan y panel, nes y caiff yr holl arian ei roi i’r ymgeiswyr llwyddiannus.