Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg ar y Rhestr Fer ar gyfer gwobr Awdurdod Lleol y Flwyddyn 

05 Ebrill 2017

Mae gobaith i Gyngor Bro Morgannwg gael ei enwi fel yr awdurdod gorau yn y DU.  

 

Mae’r Cyngor ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Awdurdod Lleol y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyflawniad mawreddog 2017 y Municipal Journal (MJ).

 

 

Dim ond chwe chyngor yn y DU sydd ar y rhestr fer derfynol. Mae'r enwebiad wedi dod ar ddiwedd blwyddyn ariannol  lle y mae’r Cyngor wedi’i ganmol gan yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford a Swyddfa Archwilio Cymru ac wedi'i sgorio fel yr awdurdod sy’n perfformio’r gorau yng Nghymru gan Uned Ddata Llywodraeth Leol ar gyfer yr ail flwyddyn.

 

MJ Awards 2017 - Finalist

Yn ogystal â’r anrhydeddau hyn, cipiodd y sefydliad y wobr Tîm y Flwyddyn yn ddiweddar yng Ngwobrau 2017 y Local Government Chronicle. 

 

Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor: “Mae Cyngor Bro Morgannwg â hanes llwyddiannus o gynnig gwasanaethau o'r radd flaenaf ac enw da y mae'n ei haeddu ar gyfer rheoli ariannol call. Mewn blynyddoedd diweddar rydym wedi gweithio i adeiladu ar hyn a’n sefydlu ein hunain nid yn unig fel y Cyngor gorau yng Nghymru ond hefyd yn y DU cyfan. 


“Yn 2016, cyhoeddon ni weledigaeth newydd ar gyfer y sefydliad, i adeiladu cymunedau cryf gyda dyfodol addawol. Mae’r gydnabyddiaeth hon o'n gwaith tuag at gyflawni hyn sydd wedi dod mor gynnar yn y daith hon ac sydd gan gorff mor fawreddog yn deyrnged i ba mor galed y mae cydweithwyr yn gweithio ym mhob rhan o'r Cyngor." 

 

Dim ond chwe Chyngor yn y wlad sydd ar y rhestr fer ar gyfer Awdurdod Lleol y Flwyddyn. Mae’r categori yn tynnu sylw at lwyddiant nid yn unig mewn un adran neu broject yn yr awdurdod lleol ond yn y sefydliad cyfan.

 

Bernir y gwobrau gan sylwebwyr dylanwadol o’r sectorau preifat a chyhoeddus a chyhoeddir yr enillydd mewn seremoni ar 15 Mehefin.

 

Dywedodd Heather Jameson, golygydd y MJ: “Mae Gwobrau MJ bob amser yn derbyn nifer mawr o geisiadau felly mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud yn dda i gael ei roi ar y rhestr fer. Mae’n deyrnged wych i dîm y cyngor.”