Cost of Living Support Icon

Amser bwrw pleidlais – yr etholiadau lleol ar y gorwell

 

13 Ebrill 2017

 

Cynhelir etholiadau lleol ar ddydd Iau 04 Mai, ac anogir trigolion Bro Morgannwg i baratoi i ddweud eu dweud.

 

Drwy bleidleisio, byddwch yn penderfynu ar bwy sy’n eich cynrychioli chi a’ch cymdogion yn y Fro, a phwy sy’n gwneud penderfyniadau ar wasanaethau lleol fel addysg a hamdden, yn ogystal â llwybrau a ffyrdd.


Wrth i ni gyrraedd wythnos olaf Mawrth, mae rhai dyddiadau pwysig y dylech eu cofio wrth i ni ddod at yr etholiad.
Mae sawl ffordd y gallwch bleidleisio, ond cyn i ni ddod at hynny, mae’n bwysig i chi gofrestru.


Rhaid cofrestru erbyn dydd Iau 13 Ebrill. Gall trigolion wneud cais i gofrestru yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio Mae’n hawdd gwneud hynny: y cyfan sydd ei angen arnoch yw’ch rhif Yswiriant Gwladol, eich dyddiad geni a’ch cyfeiriad.


Gallwch bleidleisio yn yr etholiadau hyn os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU, ac y byddwch yn 18 oed neu’n hŷn ar 4 Mai 2017. Rhaid i bleidleiswyr hefyd fod yn: 

 

  • Ddinasyddion Prydeinig neu Wyddelig, neu’n
  • ddinasyddion un o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, neu’n
  • ddinesydd y Gymanwlad sydd â hawl i aros yn y DU neu nad oes angen caniatâd arno i aros yn y DU.


Ni all dinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor bleidleisio yn yr etholiadau hyn.


Ar ôl i chi gofrestru i bleidleisio, gallech fod am benderfynu sut rydych am fwrw pleidlais.


Mae tair ffordd y gallwch bleidleisio. Y gyntaf yw eich hun: cewch gerdyn pleidleisio'n rhoi gwybod i chi eich gorsaf bleidleisio ar 4 Mai, a byddwch yn bwrw’ch pleidlais yno.


Neu, gallech fod am bleidleisio drwy’r post. I wneud hynny, rhaid eich bod wedi cyflwyno cais i gofrestru erbyn 13 Ebrill. Rhaid i'ch cais i bleidleisio drwy’r post ddod i law erbyn 5pm ar ddydd Mawrth 18 Ebrill.


Yn olaf, gallwch bleidleisio drwy ddirprwy. Mae hyn yn golygu y gallech ddewis rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Eto, rhaid eich bod wedi gwneud cais i gofrestru erbyn 13 Ebrill, a rhaid i chi gyflwyno’ch cais atom cyn 5pm ar ddydd Iau 25 Ebrill.

 

Rhaid eich bod chi a'ch dirprwy fod wedi'ch cofrestru i bleidleisio er mwyn pleidleisio yn y modd hwn.I lawrlwytho’r ffurflenni cais ar gyfer pleidlais bost neu drwy ddirprwy ewch i www.dybleidlaisdi.co.uk

 

Gallwch fynd i www.dybleidlaisdi.co.uk neu ffonio 0800 3 280 280 i gael rhagor o wybodaeth.

 EC Wales WELSH Twitter cover images-A