Cost of Living Support Icon

Dosbarthiau Tai Chi yn gwella lles trigolion Penarth

 

06 Ebrill 2017

 

Mae dosbarthiadau Symudiadau Tai Chi ar gyfer Lles wedi bod yn cael eu cynnal ers mis Ionawr, ac maent ar gyfer trigolion y Fro sy’n dioddef problemau iechyd amrywiol. Mae trefn y symudiadau wedi’u dylunio i helpu i adennill a chynnal hyblygrwydd a dod o hyd i fywioldeb newydd ar gyfer y corff.

 

tai chi group at Penarth Leisure CentreCyflwr balans meddyliol, corfforol ac ysbrydol yw Tai Chi ac mae’n hybu cylchrediad da, hyblygrwydd a meddwl canolog ac wedi ymlacio. 


Mae’n helpu i ryddhau tyndra meddyliol a chorfforol ac yn galluogi elfen o hunanfynegiant, sy’n hanfodol ar gyfer magu hyder.


Mae’r symudiadau’n araf, i sicrhau y gall yr arbenigwyr Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff wirio am anghydbwysedd mewn ystum ac i ryddhau unrhyw dyndra adeiledig.


Atgyfeiriwyd un o’r cyfranogwyr, Andrew Sutherland, i’r cynllun gan ei feddyg teulu ar ôl trawiad ar y galon. 


Dywedodd Mr Sutherland: “Ar ôl y llawdriniaeth ddargyfeiriol, dechreuais weld Craig Nichol, yr arbenigwr Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff yng Nghanolfan Hamdden Penarth, a gwellais fy ffitrwydd yn raddol trwy wneud ymarferion ar y peiriant rhedeg.


“Ers yr wyth wythnos ddiwethaf, fodd bynnag, rwyf wedi bod yn ymuno â’r grŵp yn y dosbarthiadau Tai Chi; mae Craig wedi sicrhau bod y rhain yn gymdeithasol iawn ac rwyf wedi sylwi bod fy ymwybyddiaeth ofalgar, yn ogystal â fy ffitrwydd wedi parhau i wella.


Roedd mynychwr rheolaidd arall, Phil Gibbins, hefyd am dynnu sylw at gyfraniad Craig, trwy ddweud: “Hoffai’r grŵp cyfan ddiolch i Craig, sydd, trwy greu awyrgylch gwych yn y sesiynau, wedi rhoi croeso mawr i bawb.”


Mae Mister Nichol, Gweithiwr Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff Proffesiynol yng Nghanolfan Hamdden Penarth, wedi gweithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd ers yr 20 o flynyddoedd diwethaf, a dywedodd y canlynol am y cynllun: “Rwyf wedi fy synnu at ba mor boblogaidd mae’r dosbarthiadau wedi dod.


“Mae’r bobl hynny sy’n cymryd rhan wedi parhau i sylwi ar sut mae’r drefn sy’n cael ei berfformio wedi buddio eu lles cyffredinol, a pha mor hwyl mae’r dosbarthiadau wedi bod.


“Rwy’n falch o glywed adborth mor gadarnhaol, ac mae’n bleser cynnig gwasanaeth mor wych iddynt, rwyf yn credu ynddo ac yn ei fwynhau yn fawr”.


Gall unrhyw un 16 oed neu’n hŷn gael ei atgyfeirio at y Cynllun Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff gan ei feddyg teulu am un o’r rhesymau canlynol: pwysau gwaed uchel neu golesterol; diffyg ymarfer corff; risg o glefyd y galon; gorbwysedd; Osteoporosis; Clefyd y siwgr; iechyd meddwl; rheoli pwysau.