Ysgol y Deri'n trefnu taith feicio
20 Ebrill 2017
MAE Ysgol y Deri’n annog pobl i gymryd rhan yn ei thaith feicio fis nesaf, i helpu i gyfeirio pobl neu i noddi pobl i gymryd rhan ynddi.
Mae’r ysgol, sy'n darparu ar gyfer mwy na 250 o ddisgyblion ag anghenion arbennig rhwng tair ac 19 oed, wedi trefnu i grŵp feicio ar hyd Taith Taf rhwng Aberhonddu a Phenarth. Byddan nhw'n codi arian i helpu pobl anabl i fwynhau beicio.
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae tua £20,000 wedi cael ei godi gan alluogi'r ysgol i brynu beiciau pwrpasol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, i ddylunio taith synhwyraidd beicio mynydd ac i fynd â myfyrwyr ar deithiau i lwybrau beicio byd-enwog yng Nghwm Afan.
Caiff y beiciau pwrpasol eu creu yn unol â'r archeb i ddiwallu anghenion penodol plentyn unigol.
Oherwydd hynny, maent yn costio rhwng tua £5,000 a £6,000 yr un. Disgwylir y dosbarthiad cyntaf o feiciau ddechrau’r mis nesaf.
Eleni cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 20 Mai a bydd modd i feicwyr ymuno â’r daith yn Aberhonddu, Merthyr neu Nantgarw. Ar ôl hynny bydd arwyddion a marsialiaid ar hyd y llwybr a fydd dod i ben ym Mhenarth.
Bydd bws yn gadael Ysgol y Deri am 7am a bydd parti gan gynnwys barbeciw ger y llinell derfyn.
Mae’n costio £12.50. Mae prisiau gostyngol ar gael i grwpiau a chaiff gwobr ei rhoi i bob beiciwr.
Mae modd cofrestru a chodi arian at yr achos gwerthfawr yma ar www.eventbrite.co.uk/e/ysgol-y-deri-taff-trail-challenge-2017-tickets-32830662395
Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth ar www.facebook.com/YYDeri neu drwy e-bostio tafftrailchallenge@yyd.org.uk
Mae modd gwneud rhodd yn ddiogel ar dudalen Just Giving y digwyddiad www.justgiving.com/fundraising/ysgolyderi-tafftrailchallenge-2017