Cost of Living Support Icon

Gerddi gladstone y barri wedi’u trawsnewid i’r ardal hamdden awyr agored fwyaf yn y du 

Bellach, yng Ngerddi Gladstone y mae’r ardal hamdden awyr agored fwyaf ym Mhrydain yn dilyn gwaith ailwampio sylweddol gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

9 Awst 2017

 

Members of BYA using the new gym equipment

Y parc poblogaidd ar Buttrills Road yw’r diweddaraf i gael ei ailwampio yn rhan o brosiect eang ar gyfer gwella parciau ar draws y Sir.

 

Ym mis Chwefror, agorwyd campfa newydd o’r radd flaenaf yn yr awyr agored, y mwyaf yn y Sir, gan roi cyfle i oedolion a phlant roi cynnig ar raglenni ffitrwydd newydd sydd ar gael.

 

Mae’r gwaith ailwampio yn rhan o fuddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau parciau ar draws y Fro, a safleoedd eraill yn y Barri a lleoedd ym Mhenarth hefyd yn cael eu hadnewyddu.

 

Yn rhan o’r gwaith yng Ngerddi Gladstone, aethpwyd ati i uwchraddio’r ardal chwarae, y cyrtiau tennis a’r waliau o amgylch y parc.

 

Dywedodd Arweinydd Gweithredol y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau, y Cynghorydd John W Thomas:

 

“Fel Cyngor, rydym ni’n ymroddedig i hyrwyddo ffordd o fyw sy’n iach ac yn egnïol, ac mae sicrhau bod gennym fannau awyr agored o’r radd flaenaf i drigolion eu mwynhau yn allweddol i gyflawni’r nod hwnnw.

 

Gerddi Gladstone yw’r parc diweddaraf yn y Fro i gael ei ailwampio’n sylweddol ac rwy’n hyderus y bydd y gymuned wrth ei bodd â’r cyfleusterau gwell sydd ar gael. Bellach, mae’r parc yn cynnwys yr ardal hamdden awyr agored fwyaf ym Mhrydain, felly mae digonedd i gadw pobl yn brysur pan fyddant yn ymweld.

 

Ond, bydd y gwaith yn parhau. Mae disgwyl i fwy o barciau ar draws y Sir gael eu hailwampio wrth i’r prosiect ar raddfa fawr hwn barhau.”

 

Dywedodd Neil Pigdon o Sunshine Play a ddyluniodd y gampfa:

 

“Gerddi Gladstone yw’r Ardal Hamdden Awyr Agored fwyaf o’i bath yn y DU. Mae’r offer a weithgynhyrchir gan Kompan yn gryf ac yn gadarn ac yn cynnwys App Ffôn Clyfar o’r radd flaenaf.  

 

Mae’n llwyddiant ysgubol ac mae grwpiau amrywiol wrthi’n defnyddio’r cyfleuster naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau strwythuredig. Mae wedi’i gynllunio’n drylwyr ac mae’r canlyniadau’n dweud y cyfan. Nawr rydym ni’n gobeithio ailwampio mwy o’r safleoedd hyn ar draws Cymru a’u cysylltu ynghyd. Gwyddom y byddant yn cyfrannu at greu cymdeithas hapusach ac iachach.”

 

Members of BYA warming up before their fitness session

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cydnabuwyd bod angen adnewyddu sawl agwedd ar y parc, a dechreuodd y gwaith ailwampio yn hydref 2016.

 

Cynhaliodd aelodau o Grŵp Gweithredu Ieuenctid y Barri (GGIB) sesiynau gyda disgyblion yn y ddwy ysgol leol, Ysgol Sant Curig ac Ysgol Gynradd Gladstone, ynghyd  â chydweithwyr o’r Gwasanaeth Ieuenctid a swyddogion ymgysylltu o Dîm Cyfathrebu Corfforaethol y Cyngor.

 

Dywedodd Eleri Borges, aelod o GGIB sy’n 16 oed: “Un o’r materion cyntaf a godwyd gennym ni fel grŵp oedd gwella Gerddi Gladstone. Ysgrifennom at Gyngor Bro Morgannwg, a ddywedodd fod ganddo gyllid i’n helpu ni.

 

“Aethom ati i gynnal ein hymgynghoriad ein hunain mewn ysgolion, gan fod llawer ohonyn nhw’n ddigon agos ac yn defnyddio llawer ar y parc yn yr haf. Roeddem ni eisiau gofyn iddynt beth oedden nhw eisiau ei weld yn y parc, ac erbyn hyn mae’r lle bob amser yn brysur.”

 

Ym mis Medi, bydd gwaith yn dechrau ar gam olaf proses adnewyddu’r gerddi isaf a’r gerddi uchaf. 

 

Mae’r gwaith yn cynnwys adnewyddu’r llwybrau cerdded, y coed, plannu bylbiau’r gwanwyn, glanhau’r pwll ac adeiladu ardaloedd eistedd newydd. 

 

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhannau o’r parc ar gau dros dro a chaiff cerddwyr eu dargyfeirio.  Disgwylir i’r gwaith bara 12 wythnos.