Cost of Living Support Icon

 

Rhedwyr yn meddiannu Ynys y Barri i gefnogi banc bwyd Y Fro

 

Rhedodd mwy na 100 o bobl mewn ras wedi’i gefnogi gan Gyngor Bro Morgannwg o gwmpas  Ynys y Barri, i ddangos cefnogaeth i Fanc Bwyd y Fro. 

 

  • Dydd Llun, 04 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



 

Gan ddechrau wrth gabanau’r traeth ar y Promenâd, rhedodd y rhedwyr gwrs 2k neu 5k o gwmpas yr ynys ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr.

 

Syniad Mark Ellis, Swyddog Buddsoddi a Chynhwysiant Cymunedol, oedd defnyddio gwisg ffansi i hyrwyddo’r Banc Bwyd, ac roedd 54kg werth o fwyd wedi cael eu cyfrannu.

 

 

 

Foodbank Fun Run PictureGwisgodd Mark a’r tîm fel bananas, mefusen, oren a thaten.


Mae Ynys y Barri wedi bod yn cynnal rasys parc am ddim ers dros ddwy flynedd, a gofynnwyd i bobl roi’n garedig i Eglwys Deuluol Coastlands. 

 

 

 

Meddai Mark Ellis, :  “Hoffwn ddiolch o waelod calon i Ras y Parc Ynys y Barri a Chyfarwyddwyr y Ras, Ian a Claire Thorne, am eu cefnogaeth ac am hyrwyddo'r syniad. Mae’r ymateb wedi bod yn wych, a thrwy helpu chwaer-brosiectau fel The Big Wrap a Baby Basics, mae'r rhoddion wedi tyfu a thyfu. 

 

 “Hoffwn weld Ras y Banc Bwyd yn cael ei chynnal bob blwyddyn a phwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni ambell i bysen, oren, tomato a phin-afal yn cymryd rhan flwyddyn nesa.”

 

Mae banc bwyd y Fro yn Tennyson Road, Colcot, yn sefydliad elusennol dielw sy’n dosbarthu bwyd i’r bobl hynny sy’n ei chael hi'n anodd prynu digon o fwyd i osgoi newyn.

 

Mae chwe chanolfan ledled y Fro lle gall pobl adael pecynnau bwyd. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am roi eitemau i’r Banc Bwyd, cysylltwch â Mark Ellis ar 07826 020707 neu e-bostiwch MarkEllis@valeofglamorgan.gov.uk

 

Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth am Ras y Parc Ynys y Barri. 

 

Finishing the Park Run