Cost of Living Support Icon

Oedolion sy'n dysgu'n dathlu llwyddiant yn Palmerston

 

22 Chwefror 2017

 

Daeth oedolion sy’n dysgu yng Nghanolfan Addysg Oedolion Gymunedol Palmerston ynghyd yn ddiweddar ar gyfer y seremoni gyflwyno gwobrau flynyddol.

Cllr Neil Moore and Cllr Lis Burnett attend presentation event at Palmerston

Cynhaliwyd y digwyddiad i ddathlu llwyddiannau oedolion sy’n dysgu ym Mro Morgannwg y mae llawer ohonynt wedi bod yn mynychu Cyrsiau Ailgydio mewn canolfannau Addysg i Oedolion trwy'r wlad.


Enillodd y dysgwyr gymwysterau Agored Cymru mewn ystod eang o bynciau, yn cynnwys: Cyfrifiaduron ar bob lefel, Sgiliau Cyflogadwyedd megis Cymorth Cyntaf, Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Tân, Lletygarwch a Gwasanaeth Cwsmer. 


Datblygodd dysgwyr eraill sgiliau mewn rheoli eu Hyder, Cwnsela ac Iaith Arwyddion Brydeinig.


Bu Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Neil Moore a’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Lis Burnett, yn y seremoni i annerch y dysgwyr a’u canmol am eu llwyddiant.  Dywedodd y Cynghorydd Moore: “Roedd hi’n wych gweld pa mor frwdfrydig oedd pob dysgwr.  Roedd ymdeimlad o frawdgarwch rhyngddynt ac roeddent yn amlwg yn mwynhau dysgu gyda'i gilydd.  Roedd hi hefyd yn amlwg o weld nifer y dysgwyr a oedd yn derbyn tystysgrifau, a rhai’n derbyn sawl un, eu bod nhw wedi rhoi peth wmbreth o’u hamser i fynychu’r cyrsiau.  Mae’n amlwg bod gwneud hynny’n gofyn am blethu eu profiad dysgu â’u gwaith, gofal neu gyfrifoldebau teuluol.  Roedd hi’n wych cael bod yn y seremoni a gweld cymaint o bobl yn mwynhau. Yn sicr, ces i fwynhad o fod yn rhan o’r dathliad.”


Roedd cyflwyniadau ychwanegol hefyd ar y noson, ar gyfer dysgwyr a oedd wedi llwyddo i ennill cymwysterau pellach Trwydded Yrru Cyfrifiadurol Ewrop. Roedd rhai o’r rhain wedi bod yn gyrsiau dwy flynedd.


Mae’r Cyrsiau Ailgydio’n rhoi’r gallu i ddysgwyr ennill sgiliau ar gyfer y gweithlu, ennill sgiliau a chymwysterau, hybu eu hyder, iechyd a lles a gwella eu sgiliau Saesneg a mathemateg. 


Mae llawer o ddysgwyr wedi cael gwaith neu wedi mynd ymlaen i addysg a hyfforddiant pellach yn dilyn Cyrsiau Ailgydio. 


Mae’r cyrsiau am ddim i’r rhai sy’n gymwys a chânt eu cynnal yn y Barri, Llanilltud Fawr, y Rhŵs a Sain Tathan. Mae crèche am ddim ar gael mewn rhai canolfannau.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Addysg Oedolion Gymunedol Palmerston ar 01446 733762 neu ewch i www.gbotfree.org