Cost of Living Support Icon

Arddangosfa Holocost y Ganolfan Gelf Ganolog ar fin dod i ben

 

17 Chwefror 2017

 

BYDD arddangosfa ar erchylltra’r holocost yn yr Oriel Gelf Ganolog, sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg, yn dod i ben cyn bo hir.


art1Mae un wythnos ar ôl i fynd i weld yr arddangosfa cyn iddi orffen ddydd Sadwrn, 25 Chwefror. Mae Celf Ganolog ar agor rhwng 10am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 10am i 3.30am ddydd Sadwrn.


Wedi’i hysbrydoli gan ddyfyniadau unigol gan bobl ledled y byd, mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfres o ddatganiadau a gwaith celf gan artistiaid, unigolion a sefydliadau sydd wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd Coffau’r Holocost dros y 10 mlynedd diwethaf.


Mae’r datganiadau'n effeithio ar y gynulleidfa, yn eu hannog i adlewyrchu ar eu bywydau eu hunain a phroblemau parhaus y byd.


Mae’r oriel hefyd yn cynnal arddangosfa o’r enw ‘Drwy Lygaid Plant’ gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Grwpiau Cyswllt Sipsiwn.


Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes yr hil-laddiad Romani, Porrajmos, o bersbectif y bobl ifanc a oedd yn dyst i beth oedd yn digwydd dros y cyfnod ofnadwy hwn.  Mae’r arddangosfa’n dilyn hanes plant Roma drwy rai o ddigwyddiadau mwyaf erchyll hanes yr 20ed ganrif. 


Gwnaeth Dirprwy Faer Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Eddie Williams a’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Lis Burnett helpu i lansio’r arddangosfa, pan ddarllenodd yr Athro Emeritus Tony Curtis ei gerdd benigamp ‘Soup’ am bryd dychmygol rhwng mam a merch