Cost of Living Support Icon

Blas ar chwaraeon i ferched ifanc y Fro yn ystod Hanner Tymor    

 

15 Chwefror 2017

 

Bydd tîm Datblygu Chwarae a Chwaraeon Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiad chwaraeon yn ystod hanner tymor, gyda’r bwriad o annog mwy o ferched i ymarfer corff. 

 

 

Mae’r sesiwn yn rhan o ymgyrch ‘Merched yn Ymarfer Corff’ y  Cyngor, sydd am annog mwy o ferched i gymryd rhan mewn chwaraeon ledled Bro Morgannwg.


Cynhelir y sesiwn flasu, sydd ar gyfer merched ym mlwyddyn 5 a hŷn, yng Nghanolfan Hamdden Llanilltud Fawr ddydd Mercher 22 Chwefror, rhwng 10am a 12pm. 


Gallwch gadw lle ymlaen llawn, neu gallwch droi lan ar y diwrnod. Mae'n rhad ac am ddim.


Yn y digwyddiad, bydd merched yn gallu chwarae badminton, dawnsio'n greadigol yn y dosbarth dawns stryd, a bwrw’r bêl fel Bale yn y sesiwn pêl-droed, y mae galw mawr wedi bod amdani. 


Bydd y sesiynau'n anffurfiol, ac mae croeso i bob merch fynychu, waeth beth yw ei diddordebau neu ei gallu.  


Yn ogystal, bydd tîm chwaraeon y Cyngor yn siarad â’r rheiny sy’n mynychu i gael gwybod am y gweithgareddau corfforol yr hoffen nhw eu gweld mewn digwyddiadau yn y dyfodol.   


Mae sesiynau ‘Merched yn Ymarfer Corff’ y gorffennol wedi cynnwys ‘goleminton’ (badminton sy’n tywynnu yn y tywyllwch) yng Nghanolfan Hamdden y Barri, a chlwb rhedeg i ferched ym Mhenarth.   

 

Mae merched yn ysgolion cyfun y Fro hefyd wedi bod yn rhoi cynnig ar weithgareddau wedi’u seilio ar ffitrwydd megis codi hwyl, dawnsio a nofio fel rhan o ‘Merched yn Ymarfer Corff’. Mae’r projectau hyn wedi gweithio i gynnwys merched nad ydynt yn rhan o glybiau cymunedol ar hyn o bryd ond sydd dal am wneud mwy o ymarfer corff.

 
Am fwy o wybodaeth am chwaraeon yn y Fro, neu’r cynllun ‘Merched yn Ymarfer Corff’, ffoniwch Rachel Shepherd ar 01446 704808, neu e-bostiwch rlshepherd@valeofglamorgan.gov.uk.