Cost of Living Support Icon

Ysgol gynradd Palmerston yn gwneud yn hynod o dda mewn archwiliad diweddar

 

06 Chwefror 2017

 

Mae Ysgol Gynradd PALMERSTON wedi cael archwiliad yn ddiweddar, gan ennill sgôr Rhagorol mewn llawer o adrannau.

 

Palmerston Primary SchoolCafodd yr ysgol y marc gorau posib mewn pob categori ond un gan Estyn.


Roedd addysgu, profiadau dysgu ac arweinyddiaeth ymhlith yr 11 maes a dderbyniodd glod enfawr; teyrnged i ymdrechion y staff a'r disgyblion.


“Mae canlyniad rhagorol cyffredinol yn deyrnged i’r timau proffesiynol ac ymroddgar o staff a llywodraethwyr, rhieni cefnogol dros ben a phlant ardderchog yn Ysgol Gynradd Palmerston," meddai'r Pennaeth Dros Dro, Katy Edwards.


“Mae Palmerston yn ysgol unigryw ac felly mae’n braf iawn cael cydnabyddiaeth gan Estyn am ein hethos gofalgar a chyfeillgar a'n hamgylchedd cynhwysol tu hwnt lle mae perthynas dda iawn rhwng dysgwyr sy’n agored i niwed a dysgwyr eraill.


“Byddwn yn parhau i geisio cynnig yr addysg orau posib i'r dysgwyr ac rydym yn arbennig o falch bod yr addysgu yn yr ysgol yn cael ei gydnabod fel rhagorol.


“Bydd ansawdd y dysgu wastad yn flaenoriaeth i ni yma yn Palmerston. Dyma yw ein arbenigedd a'r hyn rydyn ni'n frwd drosto, ac mae'n hanfodol wrth bennu llwyddiant y disgyblion. Yn yr amgylchedd hon lle mae’r disgwyliadau’n uchel ac mae’r plant wirioneddol wrth galon yr ysgol, gallant gynhyrchu eu gwaith gorau. 


"Mae cymuned Palmerston yn brawf o'n datganiad cenhadaeth sef, ‘Gyda’n gilydd y byddwn ni’n llwyddo’!”