Cost of Living Support Icon

Parc gwledig Porthkerry i gynnal digwyddiad llawn gweithgareddau

 

08 Chwefror 2017

 

Bydd Parc Gwledig Porthkerry Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiad gyda chymorth Cronfa'r Loteri Treftadaeth yn llawn gweithgareddau awyr agored.

 

shire horse in woods smallAr 18 Chwefror bydd coedlannau Millwood yn y parc gwledig yn croesawu ceffylau gwedd ac arddangosiadau torri coed yn ogystal ag arddangosiadau rhyngweithiol eraill. 


Bydd ymwelwyr i’r parc yn gallu gwneud bwrdd adar, gwylio, a chymryd rhan mewn gweithgaredd gwehyddu helyg, cymryd rhan mewn gweithdy bwyell a llifio a gweithgareddau coedwraeth. 


Mae’r digwyddiad torri coed am ddim, gydag ymwelwyr yn cael eu cynghori i barcio yn y prif faes parcio, neu gerdded i ardal Sawmill a Millwood Cwm Ciddi o’r parc.  Cynghorir ymwelwyr i wisgo esgidiau glaw, gan fod yr ardal y bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal yn debygol o fod yn fwdlyd. 


Mae Parc Gwledig Porthkerry yn cynnwys 200 acer o goedlannau a doldir mewn dyffryn cysgodol, sy'n arwain at draeth cerigos gyda chlogwyni trawiadol.  Mae gan y parc nifer o lwybrau natur, safleoedd picnic, caffi, ardal chwarae, ardaloedd barbeciw a chwrs golff bach. 


I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad torri coed, neu Barc Gwledig Porthkerry yn gyffredinol, ffoniwch 01446 733589, neu e-bostiwch Porthkerry@valeofglamorgan.gov.uk