Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg yn ymuno â The Place for Homes i roi celfi i'r anghenus

 

07 Chwefror 2017


Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno â siop gelfi The Place For Homes yn Llandŵ i gynnig cadeiriau a soffas am ddim i’r rhai mwyaf anghenus o fewn y Sir.

Cllr Bronwen Brooks with Rhian Francis

 

Cyn y Nadolig, tynnwyd sylw Rhian Francis, Rheolwr Gyfarwyddwr The Place For Homes, at ffawd nifer o bobl y Fro oedd yn cael trafferth dod o hyd i le i fyw.


Yn ogystal â thai, mae unigolion felly yn aml ag angen celfi.


Dewiswyd dros 15 o soffas newydd i’w dosbarthu i’r rheiny yn y sefyllfa honno trwy gyfrwng adran dai y Cyngor.


Maent yn cael eu dosbarthu am ddim gan The Place For Homes, gan ddechrau yr wythnos nesaf.


“Fe gysyllton ni â’r Cyngor oedd wrth eu bodd gyda’r cynnig ac wedi eu syfrdanu bod soffas a chadeiriau newydd sbon o ansawdd am gael eu rhoi am ddim,” meddai Ms Francis.


“Roedd yr holl soffas a chadeiriau gafodd eu cynnig yn newydd sbon, ac yn ateb yr holl reoliadau tân. Maent oll gan frandiau adnabyddus a gallent gael eu gwerthu am fwy na £1500.


“Mae’r fenter hon yn mynd i fynd rhagddi ac mae trafodaethau eisoes ar y gweill i roi celfi bwyta, gwelyau a dodrefn ystafelloedd gwely i’r rhai hynny fydd eu hangen yn y dyfodol.”


Dywedodd y Cyng. Bronwen Brooks, Aelod Cabinet dros Dai, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i The Place For Homes am wneud cyfraniad mor hael.


“Does gan nifer o bobl ddim un darn o ddodrefn ar ôl cael eu hailgartrefu. Caiff y celfi yma eu rhoi i rai o drigolion mwyaf agored i niwed yn y Fro, gan wneud eu bywydau domestig yn fwy cyfforddus, yn aml wedi cyfnod o fod yn ddigartref.”