Cost of Living Support Icon

Pen-blwydd Llyfrgell y Barri’n 10 oed

Dathlwch gyda’r llyfrgell yn Sgwâr y Brenin ar 13 a 14 Ionawr.

 

Bydd deuddydd o ddathlu yn Llyfrgell y Barri a fydd ar agor i holl aelodau’r llyfrgell ac i’r cyhoedd yn digwydd ddydd Gwener 13 Ionawr a dydd Sadwrn 14 Ionawr. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys arddangosiad o ffotograffau o’r Barri ‘slawer dydd’, a gwahoddir pawb i rannu eu hanesion o dyfu a byw yn y Barri; bydd Her Ffotograffiaeth, sesiynau cofrestru ar gyfer Clwb Lliwio newydd i oedolion, Grŵp Darllen a Grŵp Crochet, adroddwyr straeon, digwyddiadau crefft, cymhorthfa hanes teulu a pherfformiad gan Gôr Meibion y Barri. 
Mae manylion llawn ar gael isod.

 

Diwrnod Treftadaeth ddydd Gwener 13 Ionawr 2017 (10am - 5pm)

  • Arddangosiad o hen ffotograffau o’r Barri gan gynnwys Sgwâr y Brenin a Heol Holltwn
  • Diwrnod hel atgofion – dewch i adrodd eich hanesion am y Barri
  • Cymhorthfa Galw Heibio Hanes Teulu 1pm - 3pm
  • Her Ffotograffiaeth 10am - 1pm
  • Sesiynau galw heibio – e-lyfrau
  • Sesiynau cofrestru ar gyfer Clwb Lliwio newydd i oedolion 2pm - 3:30pm
  • Sesiwn cofrestru ar gyfer Clwb Crochet – trwy’r dydd
  • Sesiwn cofrestru ar gyfer Grŵp Darllen newydd – trwy’r dydd
  • Arddangosiad o’r ‘Llyfrau a Fenthycir Fwyaf’
  • Tŷ Agored VLC 12pm - 3pm

Mae Llyfrgell y Barri hefyd yn cynnal Prynhawn Agored ddydd Gwener 13 rhwng 12pm a 3pm ar y llawr cyntaf.

 

Dathlu Pen-blwydd yn 10 oed ddydd Sadwrn 14 Ionawr 2017 (10am - 4pm)

  • Adroddwyr Straeon - Guto Dafis, Carl Gough, Colin Parsons, Mark Brake a Mike Church
  • Crefftau, gan gynnwys gwneud bathodynnau 11am - 12pm
  • Perfformiad gan Gôr Meibion y Barri 11:30am
  • Clwb Sgwrsio am Lyfrau – sesiwn gofrestru ar gyfer grŵp hŷn newydd – sesiwn galw heibio yn V-
    pod ar Sgwâr y Brenin
  • Sesiwn gofrestru ar gyfer Grŵp Darllen newydd i bobl yn eu harddegau – 1pm - 2pm
  • Sesiwn blasu ar Ddaeargelloedd a Dreigiau 1pm - 3pm
  • Dangosiad ffilm - Finding Dory 1pm - 3pm
  • Helfa Drysor i blant
  • Gemau parti traddodiadol 3pm-4pm
  • Cystadleuaeth Gwisg Ffansi - gwisgwch fel eich hoff gymeriad llyfr 3pm - 4pm
  • Sesiwn blasu ar Glwb Codio 11am - 12pm
  • V-pod ar Sgwâr y Brenin
  • Arddangosiad o hen ffotograffau o’r Barri gan gynnwys Sgwâr y Brenin a Heol Holltwn
  • Arddangosiad o’r ‘Llyfrau a Fenthycir Fwyaf’

 

 

 

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Llyfrgell y Barri:

  • 01446 422425
  • Barry Library