Cost of Living Support Icon

Sesiynau briffio i'w cynnal at yr etholidau sydd i ddod

 

30 Ionawr 2017

 

Mae Swyddog Canlyniadau Cyngor Bro Morgannwg, Debbie Marles, yn croesawu’r holl Gynghorwyr, ac unrhyw ddarpar Gynghorwyr posibl, i gyfres o sesiynau briffio i Ymgeiswyr ac Asiantau ar gyfer yr Etholiadau Llywodraeth Leol sydd i ddod ym mis Mai 2017.

 

Cynhelir y sesiynau gan y Swyddog Canlyniadau, a fydd yn gwneud cyflwyniad sy’n trafod amserlenni a phrosesau’r etholiad, enwebiadau, cofrestru etholiadol a threfniadau pleidleisio absenoldeb. 


Mae’r holl sesiynau ar agor i’r holl gynghorwyr a phob ymgeisydd posibl, gan fod yn gyfle rhagorol i’r sawl sydd am ofyn cwestiynau amrywiol am y bleidlais. 


Fe’u cynhelir yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU ar:

 

  • Dydd Iau 23 Chwefror 2pm – 4pm (Ystafell Bwyllgor 2)
  • Dydd Iau 23 Chwefror 6.30pm – 8.30pm (Ystafell Bwyllgor 1)
  • Dydd Gwener 03 Mawrth 09:30am - 11:30am