Cost of Living Support Icon

Tîm chwaraeon a chwarae'r cyngor yn codi ymwybyddiaeth o glybiau chwaraeon amrywiol

 

06 Ionawr 2017

 

Mae dyfodiad blwyddyn NEWYDD yn aml yn annog nifer o drigolion y Fro i addunedu i wella eu ffitrwydd.

 

Serch hynny, wedi ymuno â champfa, bydd pobl yn aml yn colli diddordeb a gadael eu sgidiau ymarfer newydd sbon i hel llwch yn y cwpwrdd dan grisiau.


Dyna pam fod Tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn diweddaru manylion y clybiau chwaraeon ac ymarfer corff lleol sydd ar gael yn yr ardal, er mwyn dangos i breswylwyr fod digon o ddewisiadau i’r rheiny sy’n dymuno codi eu lefelau ffitrwydd yn 2017.


Mae cannoedd o ddewisiadau amgen yn hytrach na’r gampfa, dewisiadau megis clybiau chwaraeon lleol sydd nid yn unig yn rhoi cyfle i fynychwyr wella eu ffitrwydd ond sydd hefyd yn cynnig buddion cymdeithasol gwych.
Mae’r Cyfeirlyfr Clybiau Chwaraeon diweddaraf yn tanlinellu yr amrywiaeth o glybiau sydd ar gael i bobl ar draws ystod o oedrannau.


Ar hyn o bryd mae dros 140 o glybiau ar y gronfa ddata, llawer ohonynt yn digwydd mewn ystod o adeiladau dan do, gan gynnwys canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden, neuaddau chwaraeon a neuaddau eglwys lleol. Fel arall, mae yna hefyd weithgareddau fel achub bywyd yn y môr, rhedeg, hwylio a caiacio sy’n defnyddio amgylchedd naturiol anhygoel y Fro.


Mae gwybodaeth gyswllt ynghylch rhai o’r clybiau sydd ar gael i’w gweld drwy fynd i’r wefan Datblygu Chwaraeon a Chwarae. Gallwch hefyd ffonio’r Tîm Chwaraeon a Chwarae ar 01446 704793 am fwy o wybodaeth.


Mae newyddion ynghylch gweithgareddau sydd ar waith hefyd yn cael ei roi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y tîm, valesportsplay (Facebook), @valesportsnews (Twitter) and @valesportsnews1 (Instagram).


Os ydych yn aelod o glwb chwaraeon sydd heb ei restru ar y gronfa ddata, cysylltwch â’r tîm. Does dim tâl i gael eich cynnwys ar y gronfa ddata.