Cost of Living Support Icon

Y Cyngor yn cynnig cyrsiau a gweithdai chwaraeon

 

16 Ionawr 2017

 

MAE tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithio'n galed yn trefnu a hyrwyddo ystod o gyrsiau a gweithdai'n ymwneud â chwaraeon a ffitrwydd ledled y Fro.

 

Civic OfficesMae’r cyrsiau a’r gweithdai sydd ar gael yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau y mae’r Cyngor yn eu cynnal, ynghyd â rhai a drefnir gan sefydliadau eraill, gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol.
Ymhlith y cyrsiau sydd ar gael y tymor hwn mae:

 

  • Ymgysylltiad Clwb gyda’r Gymuned - 19 Ionawr (6-9pm), yn y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri - AM DDIM: Nod y cwrs hwn yw cynorthwyo'r clybiau i gryfhau eu perthynas gyda'r gymuned leol, denu mwy o bobl leol i gymryd rhan a goresgyn yr heriau y mae'r clwb yn eu hwynebu o ran ymgysylltu â'r gymuned.
  • Sicrhau Cynaliadwyedd y Clwb – 09 Chwefror (6-9pm), yn y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri – AM DDIM: Mae’r cwrs hwn yn ystyried cynaliadwyedd hirdymor clwb chwaraeon. Mae'n canolbwyntio ar ffrydiau cyllid ac incwm, a hefyd y bobl a’r llefydd, gan geisio sicrhau cynaliadwyedd gweithlu’r clwb a hygyrchedd y cyfleusterau.
  • Hyfforddi Plant (5-12 oed) – 21 Chwefror (6-9pm), Swyddfeydd Dinesig, Y Barri – AM DDIM: Dyma gyfle cyffrous i ailystyried pwyslais eich hyfforddi, ac i wella profiadau’r cyfranogwyr ifanc ar yr un pryd. Byddwn yn cyflwyno’r system hyfforddi plant ‘C’ i chi, a fydd yn gwella’ch sgiliau meddal a phersonol, gan eich helpu i ddod yn hyfforddwyr mwy effeithiol.
  • Cymorth Cyntaf – 05 Mawrth (9.30am-3.30pm), FAST First Aid Supplies, Y Barri - £25: Nod y cwrs hyfforddiant hwn yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gall y cyfranogwr gynnig Cymorth Cyntaf effeithiol.  Ceisia’r cwrs wneud hyn drwy fod yn ymarferol, yn briodol ac yn hwylus. Rydym yn annog cwestiynau a chyfranogiad drwy gydol y cwrs.
  • Cwrs Diogelu ac Amddiffyn Plant - 16 Mawrth (6-9pm), Swyddfeydd Dinesig, Y Barri - £25: Bydd y gweithdy hwn yn codi eich ymwybyddiaeth o arwyddion camdriniaeth ac arfer gwael, a rhoi'r dulliau sydd eu hangen arnoch i ymdrin ag unrhyw faterion yn sensitif, yn briodol ac yn effeithiol pe cyfyd yr angen yn eich gyrfa hyfforddi.
  • Sut mae hyfforddi Hanfodion Symud (i’w gadarnhau), i’w gadarnhau – AM DDIM: Ynghyd â rhoi sylfaen drylwyr i chi o ran sgiliau hanfodion symud, bydd y gweithdy hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i chi ymgorffori prif elfennau ym mhob un o’ch sesiynau – waeth beth yw oedran y bobl yr ydych chi'n eu hyfforddi.

Er mwyn cadw lle, rhaid derbyn ffurflen archeb lawn a thaliad llawn. Er mwyn cadw lle ar gwrs a gofyn am ffurflen gais cysylltwch â Steffan Williams ar 07702479672, neu slwilliams@valeofglamorgan.gov.uk.  


Rhaid talu drwy ddefnyddio arian parod neu siec (yn daladwy i 'Cyngor Bro Morgannwg'). Yn anffodus, nid oes modd i ni dderbyn taliadau cerdyn credyd / debyd.