Cost of Living Support Icon

Wedi joio'r nadolig? Nawr yw'r amser i gadw'n heini gyda chwrs Foodwise 

 

11 Ionawr 2017

 

Bydd Cymunedau yn Gyntaf y Barri, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth  ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ail-lansio’r cwrs Foodwise llwyddiannus yn y Flwyddyn Newydd.

 

Past Foodwise participantMae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i drigolion ddysgu am y bwydydd y dylent eu cynnwys mewn diet gytbwys, sut i greu (a dilyn) cynllun bwyta'n iach, a sut i golli pwysau drwy weithgarwch corfforol.  

 

Bydd Foodwise hefyd yn dangos i bobl sut mae dehongli labeli bwyd a sut i ddefnyddio’r wybodaeth faethol sydd arnyn nhw. 

 

Bydd y sesiynau, sy’n rhad ac am ddim, yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden y Barri o ddydd Mawrth 24 Ionawr rhwng 11.00am a 12.30pm. 

 

Dywedodd y bobl a ddaeth i’r cwrs yn y gorffennol fod y cwrs wedi’u galluogi i golli pwysau, bwyta’n iach a dysgu mwy am fwyd ac ymarfer corff.

 

Mae Cymunedau yn Gyntaf y Barri yn rhaglen wrth-dlodi a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o wella iechyd, ffyniant a dysgu trigolion mewn rhannau o Buttrills, Cadoc, Castleland, Court a Gibbonsdown.  

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle ar y cwrs, cysylltwch â’r tîm Cymunedau yn Gyntaf: