Cost of Living Support Icon

Ardal Chwarae Hatch Quary I Gau Wedi Iddi Dywyllu


25 Ionawr 2017

 

Bydd ardal chwarae Hatch Quarry nawr yn cau y tu allan i oriau golau ddydd wrth i Gyngor Bro Morgannwg frwydro i ymdopi â fandaliaeth barhaus.


Cafodd y parc ei ailwampio fis Mawrth, gan ddatgelu offer chwarae newydd i blant ei fwynhau.


Un o brif nodweddion y cynllun oedd y byddai’r parc yn rhydd rhag cŵn fel y gallai’r plant fwynhau rhannau gwyrdd y parc.


Vandalised-Sign[1]Wedi ei amgylchynu gan ffens, fe ddylai alluogi plant i chwarae i ffwrdd o’r traffig a heb orfod poeni am faw cŵn, sydd nid yn unig yn amhleserus os yw plant yn disgyn iddo, ond sydd hefyd yn berygl i iechyd. 


Gall baw cŵn arwain at toxocariasis mewn pobl, sy’n gallu peri salwch difrifol a hyd yn oed dallineb. 
Mae toxocariasis fel rheol yn effeithio ar blant rhwng un a phedair oed. Plant ifanc sy’n wynebu’r peryg mwyaf, gan mai nhw sydd fwyaf tebygol o roi pethau yn eu cegau, ac sy’n llai tebygol o olchi eu dwylo yn gywir.


Ond am dros flwyddyn o leiaf, mae person neu bersonau diegwyddor wedi bod yn difwyno arwydd ‘rhydd rhag cŵn’ y parc gyda phaent gwyn, gan gostio tipyn i’r Cyngor godi un newydd yn ei le.
Tybiwyd mai eithrio cŵn oedd y modd mwyaf effeithiol o ddarparu ardal chwarae lle gallai rhieni fod yn hyderus y gallai eu plant chwarae’n ddiogel. 


Ond chwistrellwyd dros y neges, gan adael preswylwyr lleol yn teimlo na allan nhw herio perchnogion cŵn sydd ddim yn ymwybodol nad yw’r ardal ar gyfer eu hanifeiliaid anwes hwy. 


Yn anffodus mae’r fandaliaeth yma wedi parhau, fel nad oes dewis mwyach gan y Cyngor ond i gau’r parc wedi iddi dywyllu, pan gyflawnwyd y troseddau yn y gorffennol.


Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoliadol, Hamdden a Gweladwy: “Fe benderfynon ni sefydlu ardal chwarae Hatch Quarry fel ardal ‘rhydd o gŵn’, oherwydd ein bod am roi lle i bobl ei fwynhau yn rhydd, heb orfod poeni am ddod ar draws cŵn a’u baw.


“Yn anffodus, mae’r difrod cyson a wneir i’r arwydd sy’n nodi na chaniateir cŵn yno yn golygu nad oes dewis gennym ond i gau’r parc wedi iddi dywyllu. Mae’n drist fod angen cymryd y cam hwn, ond mae’n ymddangos fod pwy bynnag sydd wedi bod yn gyfrifol am y fandaliaeth yma yn gwrthod rhoi’r gorau iddi felly dyma’r unig ffordd o amddiffyn yr arwydd rhag ei ddifrodi eto.


“Rydym yn gwerthfawrogi’r angen i gerddwyr cŵn gael mannau agored ac rydym yn ffodus ym Mro Morgannwg fod y rhain gennym mewn niferoedd mawr. Rhoddwyd y Faner Werdd i Barc Victoria, sy’n agos iawn i Hatch Quarry, yn ogystal ag ardaloedd eraill o dir gwyrdd lle gall perchnogion fynd â’u cŵn."


Gellir adrodd ar faw cŵn yn gyffredinol, neu gŵn sy’n cael eu gadael i mewn i ardal chwarae Hatch Quarry, drwy gysylltu â chanolfan gyswllt C1V Cyngor Bro Morgannwg ar 01446 700111, drwy e-bostio c1v@valeofglamorgan.gov.uk, neu ymweld â www.valeofglamorgan.gov.uk.

   
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch fandaliaeth yr arwydd gysylltu â’r Cyngor drwy’r un sianeli.