Cost of Living Support Icon

Oedi gyda gwaith arolygu platfform golygfa Penarth oherwydd fandaliaeth

 

09 Ionawr 2016

 

Mae’r offer monitro a roddwyd mewn lle y mis diwethaf i helpu i nodi achos y craciau i blatfform golygfa Penarth wedi’i niweidio gan fandaliaid, gan oedi gwaith Cyngor Bro Morgannwg i ymdrin â’r broblem.  


Y platfform – datblygwyd gan y Cyngor mewn ymateb i’r gwaith a wnaethpwyd gan Gymdeithas Twristiaeth ac Ymwelwyr Penarth ac ar ôl i’r grŵp ofyn i strwythur gael ei roi mewn lle i ddathlu agoriad Llwybr Arfordirol Cymru – yn cynnig golygfeydd ar draws Môr Hafren a Phier Penarth. 


Cwblhawyd y gwaith adeiladu ac agorwyd y platfform i’r cyhoedd yn 2015 (roedd gwaith i ychwanegu paneli dehongli a manion eraill wedi’i gynllunio ar gyfer 2016/17).  Fodd bynnag, ar ddiwedd 2016 datblygodd craciau bach yn waliau’r strwythur ac felly comisiynwyd gwaith arolygu i nodi’r achos.  


Bydd offer monitro ychwanegol nawr yn cael ei roi mewn lle a’i ddiogelu.  Disgwylir canlyniadau’r gwaith arolygu  yn Chwefror, gan gymryd na fydd unrhyw fandaliaeth bellach i’r offer.