Cost of Living Support Icon

Ffair Wirfoddoli Fawr gyntaf y Fro yn llwyddiant aruthurol

 

20 Ionawr 2017

 

Daeth dros 300 o bobl ynghyd yng Nghanolfan Gelf y Memo ddydd Mercher 18 Ionawr 2017 ac fe’u croesawyd gan 56 o ddarparwyr gwasanaethau gwirfoddol oedd am godi eu proffil a recriwtio gwirfoddolwyr.
 
Roedd digon o ddewis yn Ffair Wirfoddoli Fawr Gwasanaethau Gwirfoddoli Morgannwg ac roedd llawer iawn o gyfleoedd gwirfoddoli ledled y gymuned yn cael eu harddangos. Roedd y Ffair Wirfoddoli Fawr (FfWF) yn adlewyrchiad da iawn o amrywiaeth, angerdd a chryfder y sector gwirfoddol ac yn ffordd wych i bobl ymuno â gwaith gwirfoddol a chychwyn ar antur newydd.  Mae FfWF yn arbennig o ddiolchgar i Asda’r Barri am ddarparu lluniaeth ar gyfer y diwrnod. Mae FfWF 
yn gobeithio cynnal digwyddiad bob blwyddyn, yn dibynnau ar gyllid.
 
Dywedodd Kath Fisher o Elusen Hosbis Plant Arch Noa: “Roedden ni wrth ein bodd yn cael gwahoddiad i’r Ffair Wirfoddoli Fawr a chawsom ddiwrnod arbennig, yn siarad â thros 40 o bobl a 25% ohonyn nhw’n cynnig o'u amser i wirfoddoli.” Mae wedi bod yn ddigwyddiad gwerth chweil i ni ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cyfle.”


Os ydych chi’n ystyried gwirfoddoli, neu os byddai gwasanaethau recriwtio gwirfoddoli FfWF o fudd i’ch sefydliad cymunedol, cysylltwch â GGM:

 

Rhif Elusen Gofrestredig: 1163193