Cost of Living Support Icon

Benthycwyr brwd yn dathlu degawd yn Llyfrgell y Barri

 

06 Ionwar 2017

 

Library

Ymunodd rhai o gwsmeriaid gorau’r Barri â staff am baned a chacen yr wythnos hon er mwyn dathlu dengmlwyddiant y llyfrgell.

 
Ers ei hagor ar 4 Ionawr 2007, mae Llyfrgell Ganolog y Fro wedi benthyg dros filiwn o lyfrau i’w 29,000 aelod.

 
Yn rhyfeddol, benthycwyd 18,000 o’r rhain i ddeng unigolyn yn unig. Ar ben y rhestr roedd Mrs Dorothy Yussuf, sydd wedi benthyg 2471 llyfr ers i’r llyfrgell agor.

 

Ar ôl iddi dorri’r gacen i ddechrau’r dathlu, dywedodd Dorothy: “Mae’r llyfrgell yn lle hyfryd i ddod iddo. Roeddwn i wastad yn meddwl bod rhaid bod yn dawel fel llygoden mewn llyfrgell, ond mae hon yn gymdeithasol iawn; rwyf wedi cyfarfod llawer o bobl.

 

Library 2

“Mae’r staff yn wych, allan nhw ddim gwneud digon i'm helpu. Maen nhw’n dod o hyd i’r holl lyfrau rwy’n gofyn amdanyn nhw ac yn dod â nhw i mi.

 

“Yr unig broblem yw fy mod i’n dod i ddiwedd y llyfrau! Mae’n rhaid iddyn nhw eu harchebu nhw i mi o lyfrgelloedd eraill bellach.”

 

Cynhaliwyd y parti pen-blwydd i nodi dechrau blwyddyn o ddathlu ar gyfer y llyfrgell a neuadd y dref sydd gerllaw.


Dywedodd Chris Edwards, y Prif Lyfrgellydd: “Fe feddylion ni na fyddai ffordd well o ddathlu ein dengmlwyddiant na gyda’n cwsmeriaid gorau.

 

“Un o’r pethau sy’n gwneud llyfrgelloedd mor arbennig yw eu bod yn rhoi cyfle i bobl ddilyn eu diddordebau, dysgu rhywbeth newydd, rhannu eu diddordebau neu ymgolli mewn llyfr gwych.

 

“Dyna’r ydym wedi bod yn ei gynnig i bobl dros y degawd diwethaf, a dyna y byddwn yn parhau i’w wneud am lawer o flynyddoedd eto.”
Library 1


Bydd deuddydd  o ddathlu a fydd ar agor i holl aelodau’r llyfrgell ac i’r cyhoedd yn digwydd ddydd Gwener 13 Ionawr a dydd Sadwrn 14 Ionawr. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys arddangosiad o ffotograffau o’r Barri ‘slawer dydd’, a gwahoddir pawb i rannu eu hanesion o dyfu a byw yn y Barri; 
bydd her ffotograffiaeth, sesiynau cofrestru ar gyfer Clwb Lliwio newydd i oedolion, Grŵp Darllen a Grŵp Crochet, adroddwyr straeon, digwyddiadau crefft, cymhorthfa hanes teulu a pherfformiad gan Gôr Meibion y Barri.

 

Mae’r manylion ar gael yn www.valeofglamorgan.gov.uk