Cost of Living Support Icon

Gwobrwyo swyddogion croesi ysgol Cyngor Bro Morgannwg

 

11 Ionawr 2017

 

Mae'r arwyr di-glod sy’n helpu pobl ifanc y Fro i groesi’n ffyrdd yn ddiogel ddwywaith y dydd wedi cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu.

 Peter King, Sandra Riggott, Road Safety Award

 

 

Yng Ngwobrau Diogelwch ar y Ffyrdd Bro Morgannwg yn ddiweddar, digwyddiad blynyddol a gynhelir yn Swyddfa’r Dociau y Cyngor, cafodd y rheiny sy’n gweithio ar groesfannau ysgol ledled y sir eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu cyfraniad at ddiogelwch ar y ffyrdd. 


Diolchwyd hefyd i gydlynwyr a gwirfoddolwyr Cynllun Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc Kerbraft hefyd yn ystod y seremoni eleni. 


Aeth y brif wobr - Swyddog Croesi Ysgol y Flwyddyn – i Sandra Riggott, aelod poblogaidd ac adnabyddus iawn o gymuned Ysgol Gynradd Colcot. A hithau’n enillydd haeddiannol, mae Sandra, yn ogystal â chyflawni ei dyletswyddau arferol, yn aml yn ymweld â'r ysgol i siarad â'r plant am ddiogelwch ar y ffyrdd, ac am ei gwaith fel swyddog croesi ysgol.


Ymhlith yr enillwyr penigamp eraill oedd Helen Wilkinson, a enillodd y wobr yn y Barri. Mae Helen wedi bod yn gweithio yn y Fro ers 2010, gan ddechrau ar ei gyrfa yn Llanilltud Fawr. Bu Helen yn garedig iawn yn helpu'r Tîm Diogelwch y Ffyrdd dros y flwyddyn olaf drwy weithio dros dro mewn safle arall yn Ysgol Iau y Santes Helen ar Tynewydd Road, lle mae hi hefyd yn boblogaidd dros ben.


David Regan oedd yr enillydd ym Mhenarth, Sili a Dinas Powys. Mae David wedi bod yn gweithio fel ‘dyn lolipop’ yn y Fro ers dwy flynedd yn unig – ac mae’n aelod o dîm croesi sy’n ŵr a gwraig ym Mhenarth. Mae'n helpu myfyrwyr St Cyres, ymhlith eraill, ar Redlands Road, lle mae eisoes wedi gwneud enw da iddo’i hun gyda rhieni a phlant.


Enillydd y wobr yn y Fro Wledig, sy’n cynnwys y Rhws, Sain Tathan, Llanilltud Fawr a’r Bont-faen, oedd Alex Daw. Mae hi wedi bod yn gweithio mewn man croesi prysur yn Llanilltud Fawr am fwy na 13 o flynyddoedd ac mae'n swyddog cydwybodol iawn y gall pawb sy'n mynychu'r ‘Ysgol yr 21ain Ganrif' newydd, Ysgol y Ddraig, ddibynnu arni.


Cyflwynwyd gwobr arbennig i Megan Blayney ar ran holl wirfoddolwyr y Cynllun Hyfforddi Cerddwyr Ifanc Kerbcraft. Ar ôl iddi fod yn helpu yn Ysgol Gynradd Rhws yn y gorffennol, mae Megan wedi bod yn gymorth mawr yn Ysgol y Deri eleni.
Ar ôl y seremoni bu i’r enillwyr fwynhau bwffe a chwis diogelwch y ffyrdd difyr. Diolchodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Wasanaethau Adeiladau, Priffyrdd a Thrafnidiaeth, yr holl bobl a oedd yn bresennol yn y seremoni. Dywedodd:


“Sefydlwyd y Gwasanaeth Swyddog Croesi Ysgol a’r Cynlluniau Kerbcraft fel ateb i’r angen i sicrhau bod plant yn ddiogel yn yr awyr agored ar ein ffyrdd prysur, neu wrth eu hymyl. 


“Mae llwyddiant unrhyw gynllun yn dibynnu ar ymrwymiad ac ymroddiad yr unigolion dan sylw. Mae’n gofyn am unigolyn llawn ymroddiad a brwdfrydedd i sefyll mewn glaw trwm a gwylio gyrwyr, tra mae'n addysgu diogelwch ar y ffyrdd i blentyn a darparu man croesi diogel."