Cost of Living Support Icon

Gwaith yn dechrau i ailddatblygu Cemetery Approach

 

13 Ionawr 2017

 


Mae gwaith wedi dechrau ar ardd gymunedol newydd ac ardal natur yn Cemetery Approach yn y Barri. 

 Redevelopment of Cemetery Approach

 

Dechreuodd contractwyr weithio ar y safle yr wythnos hon ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri gymeradwyo’r cynlluniau ym mis Medi. Mae’r cynllun £550,000 yn cael ei ariannu dan y ddau gyngor. 

 

Bydd parc newydd ac adeilad cymunedol bychan yn cael eu hadeiladu ar y tir y naill ochr i Cemetery Road yn y Barri. Cyngor Bro Morgannwg sy’n berchen ar y tir yma ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau bydd yn cael ei brydlesu i Gyngor Tref y Barri a fydd yn cymryd rheolaeth o’r parc newydd. 

 

Dywedodd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae parciau a mannau agored yn dod â chymunedau at ei gilydd. Maent yn hynod o bwysig. Rydyn ni’n gwybod bod y trigolion lleol am weld y tir hwn yn cael ei ddefnyddio a’i agor i’r cyhoedd. Dyna’n union y mae’r Cyngor hwn wedi’i wneud.” 

 

Dywedodd y Cynghorydd Emma Pritchard, Arweinydd Cyngor Tref y Barri: “Mae hwn yn broject cyffrous ar gyfer dyfodol y gymuned leol yn y Barri. Mae Cyngor y Dref wedi cysylltu â’r bobl ynglŷn â’r datblygiad hwn ac yn dilyn pleidlais enwyd yr ardal yn ‘Gerddi’r Fynwent’ neu ‘Cemetery Approach Gardens’. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Chyngor Bro Morgannwg i gwblhau’r prosiect.”

 

Bydd y cam cyntaf, sy’n mynd rhagddo, yn gweld y tir yn cael ei glirio a’r planhigion yn cael eu tocio. Mae hyn yn debygol o barhau tan ddiwedd Ionawr pan fydd y prif waith adeiladu’n dechrau. Disgwylir i’r cynllun gael ei gwblhau yn Ebrill 2017.