Cyngor Bro Morgannwg yn ailwampio parc Wordsworth Penarth ar gyfer gwyliau'r Haf.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi trawsnewid Parc Wordsworth ym Mhenarth trwy gyflwyno cyfleusterau mwy a gwell i deuluoedd eu mwynhau’r haf hwn.
Dydd Iau 27 Gorffennaf 2017
Mae cyllid Adran 106 o ddatblygiad lleol wedi’i wario ar offer newydd yn cynnwys chwirligwgan sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, siglen â sedd fflat a giât â mynediad eang, yn ogystal ag ychwanegiadau newydd eraill.
Mae’r gwaith ailwampio diweddar hwn yn rhan o raglen barhaus o fuddsoddi mewn cyfleusterau parc ledled y Fro.
“Mae’r newidiadau bellach wedi’u gwneud, rwyf erioed wedi’i weld mor brysur. Mae’r parc wastad yn llawn plant ifanc.”
Alex McDonald, Weithredu Ieuenctid Penarth
Ymgynghorwyd ag aelodau Gweithredu Ieuenctid Penarth am y newidiadau i'r parc hefyd.Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Medi a mis Hydref y llynedd a rhannodd plant ysgol a thrigolion lleol syniadau ar sut yr hoffent i'n parc gael ei wella. Ymgynghorwyd ag aelodau Gweithredu Ieuenctid Penarth am y newidiadau i'r parc hefyd.
Mae’r gwelliannau wedi cynnwys ailwampio’r maes chwarae gydag offer newydd, arwynebau diogelwch, gwelliannau i fynediad, biniau a seddi. Mae’r gwaith ailwampio diweddar hwn yn rhan o raglen barhaus o fuddsoddi mewn cyfleusterau parc ledled y Fro.
““Dyma barc newydd gwych i blant a gyda’r gwelliannau newydd; rydym yn gobeithio y gall mwy o bobl ddefnyddio’r parc yr haf hwn.
“Mae'r gwaith gwella diweddaraf yn esiampl wych o’r gwaith wedi’i wneud gan y Cyngor a bydd y tîm yn parhau i wella parciau ledled Bro Morgannwg.”
Arweinydd Gweithredol a’r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau, y Cynghorydd John Thomas
Parc Wordsworth yw’r parc diweddaraf i gael ei ailwampio yn rhan o raglen gwella parciau ledled Penarth, yn dilyn Cwrt Y Vil, Plassey Square a Llwybr Y Clogwyn. Members of Penarth Youth Action (PYA) were also consulted about changes to the park.