Cost of Living Support Icon

Dyfarnu mwy na £11,000 i naw sefydliad yn y fro o gronfa’r gist gymunedol

 

20 Gorffennaf 2017

 

Roedd grwpiau chwaraeon ledled y Fro ar ben eu digon ar ôl cael cyfran o £11,267 yn ail rownd panel Cronfa'r Gist Gymunedol.

 

Barry Cricket club

Chwaraeon Cymru sy’n arwain cynllun y Gist Gymunedol a Thîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor y Fro sy’n ei reoli.

 

 

Roedd Clwb Pêl-droed Heol Holltwn a Chlwb Trampolinio Caerau a'r Fro ymhlith y naw a gafodd arian, a byddan nhw'n defnyddio’r arian i ddatblygu eu gweithlu hyfforddi.

 

Yn ogystal â hynny, cafodd Clwb Pêl-rwyd Penarth Allstars gyfran a bydd yn gwario'r arian ar greu adran dan 17 oed newydd. Maen nhw hefyd am anfon eu gwirfoddolwyr ar gyrsiau i hyfforddwyr a dyfarnwyr.

 Knap lifeguard team

 

 

Bydd Clwb Criced Barri Athletic yn datblygu eu rhaglen All Stars ymhellach sy'n cynnig cyfleoedd criced i blant 5 - 8 oed, a bydd y clwb seiclo, Wenvoe Wheelers, yn prynu treinyrs tyrbo dan do ac yn trefnu cyrsiau hyfforddi i wirfoddolwyr. 

 

Bydd yr Adran Iau o Glwb Badminton Penarth a Dinas Powys a'r Cylch yn defnyddio’r arian i logi neuadd ac offer. 

 

Bydd y timau yng Nghlwb Bocsio’r Rhws a Chlwb Bocsio Amatur Colcot yn defnyddio eu cyllid i anfon hyfforddwr ar gwrs hyfforddi a phrynu offer i aelodau eraill.

 

Bydd Clwb Achub Bywyd Rhondda (Cold Knap) yn prynu offer newydd a fydd yn eu galluogi i brynu padiau sgïo i’w haelodau iau. 

 

 

Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau, gan gynnwys rhai y tu allan i fyd chwaraeon, yn gymwys i wneud cais am gyllid, cyn belled ag y gallan nhw ddangos eu bod yn bodloni’r meini prawf.

 

Caiff cyfarfod nesaf panel y Gist Gymunedol ei gynnal ddydd Iau 14 Medi. Rhaid cwblhau a chyflwyno ceisiadau erbyn dydd Iau 31 Awst.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Karen Davies, Rheolwr Datblygu Chwaraeon a Chwarae, ar 01446 704793.