Cost of Living Support Icon

Cynorthwy-ydd cegin o'r Fro yn ennill gwobrau arian ac efydd mewn cystadleuaeth arlwyo genedlaethol  

 

Dydd Llun 24 Gorffennaf

 

Gwnaeth Cynorthwy-ydd Cegin o Gyngor Bro Morgannwg argraff â’i sgiliau coginio penigamp mewn cystadleuaeth genedlaethol ddiweddar.

Gareth Bronze Award Apple Pie

Cymerodd Gareth Humphreys, sy’n gweithio yn Ysgol Gyfun Sant Cyres ym Mhenarth, ran yng nghystadleuaeth Finishing Touches 2017 gyda’r Brif Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Arlwyo ym maes Addysg (LACA), yn gynharach y mis hwn. 

 

Ddydd Iau 6 Gorffennaf, enillodd Gareth y wobr arian am ei gynnig yn y dosbarth bisgedi, a’r wobr ‘gorau yn y dosbarth'. Ei deisen afalau fodern, wedi’i llenwi â chwstard ac yn frith o gandi popio ar ei phen, gipiodd y wobr efydd.

 

Nid yw’n hir ers iddo ennill yng nghystadleuaeth LACA ym mis Hydref am ei gynnig yn y dosbarth bisgedi.

 

Dywedodd Gareth Humphreys, 64 oed, sy'n gynorthwyydd cegin ers dwy flynedd:

 

 “Roedd yn ddiwrnod da iawn ond doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’r safon mewn cystadleuaeth genedlaethol. Byddai’n wych annog aelodau eraill o staff mewn ysgolion eraill, sy'n mwynhau pobi, i gymryd rhan mewn cystadlaethau fel y rhain. Roedd yn wych cael cefnogaeth y tîm arlwyo.  

 

“Yn ystod y rhan fwyaf o'm penwythnosau cyn y gystadleuaeth bues i'n pobi, a dyw pobl ddim yn sylweddoli faint o amser y mae'n ei lenwi. Dywedodd fy ŵyr 11 oed i mi am roi candi popio ar y deisen, ac rwy'n falch y gwnes i."

 

 

 

Cafodd Gareth hefyd dlws a mỳg gan y tîm arlwyo, a oedd yn fwy na pharod i gynnig cymorth iddo. 

 

Gareth and the team

Dywedodd Mary Hesford, sy’n gweithio yn Nhîm Strategaeth, Dysgu Cymunedol ac Adnoddau yng Nghyngor Bro Morgannwg:


 “Gwnaethom ni, LACA, ofyn i staff cegin p'un a oedden nhw am gymryd rhan yn y Gystadleuaeth Gymreig Ranbarthol fis Hydref diwethaf yn 2016. Dangosodd dau ymgeisydd ddiddordeb, ac o'r rhain llwyddodd Gareth i ennill gwobr Aur. Yn dilyn hynny, roedd am gystadlu yn y Gystadleuaeth LACA genedlaethol, ac ro'n i'n fwy na pharod i'w gefnogi ac i gynnig cyngor iddo.


 “Rydyn ni’n falch iawn o lwyddiant Gareth ac rydyn ni wedi anfon cylchlythyr i bob un o'n safleoedd yn y gobaith o annog staff i gystadlu yn y dyfodol, ac er mwyn rhannu ei lwyddiant.


 “Cawson ni sesiynau blasu yn yr ysgol ac roedd staff a disgyblion yn mwynhau. Roedden ni'n fodlon iawn rhoi gwybod am ganmoliaeth ac awgrymiadau ganddyn nhw. Mae Gareth wrth ei fodd yn pobi ac mae'n dda yn ei wneud e."

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am gystadleuaeth LACA, ewch i  http://laca.co.uk/news/national