Cost of Living Support Icon

Rhybudd wedi i'r safonau masnachu gipio 114 o nwyddau Justin Bieber

 

12 Gorffennaf 2017

 

Rhoddwyd rhybudd i fasnachwyr twyll wedi i dros 114 o grysau-t a hwdis Justin Bieber ffug gael eu hatafaelu yn ystod cyngerdd y seren bop yng Nghaerdydd.

 

Mewn ymgyrch ar y cyd rhwng y Safonau Masnachu a Heddlu De Cymru, canfu swyddogion ddillad heb y marciau masnach cofrestredig cywir pan oedd y canwr yn perfformio yn Stadiwm Principality nos Wener 30 Mehefin. 

 

Petai’r 114 eitem wedi eu gwerthu trwy’r siopau nwyddau swyddogol, byddent wedi costio cyfanswm o bron i £5,000.

 

One-of-the-counterfeit-hoodies-sold-at-the-Justin-Bieber-concert

One-of-the-counterfeit-t-shirts-sold-at-the-Justin-Bieber-concert

 

“Dyma un enghraifft yn unig o ba mor dda y mae timau’r Safonau Masnachu a Heddlu De Cymru’n cydweithio.

 

Mae gwerthu nwyddau ffug yn enghraifft o ymelwa dideimlad gan ffans ifanc. Roedd y crysau-t ffug a gipiwyd ar werth am £10 ac roedd y siwmperi a’r hwdis yn costio £25.

 

Fodd bynnag, mae gwefan nwyddau swyddogol Justin Bieber yn gwerthu dillad tebyg am bris is, ac mae gwahaniaeth amlwg yn yr ansawdd.

 

Bydd ein timau allan eto ar gyfer gigs Coldplay a John Legend sydd i ddod yng nghanol dinas Caerdydd, ac rydyn ni'n atgoffa'r rhai sy'n mynd i'r gigs ac aelodau eraill y cyhoedd i fod yn wyliadwrus yn ystod yr adegau yma."

 

 - Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda swyddogion Heddlu De Cymru er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r problemau hyn.

 

Y nod yw arbed busnesau dilys rhag colli arian ac atal elw rhag mynd i ddwylo troseddwyr cyfundrefnol.

 

Yn rhan o waith tebyg, pan gynhaliodd y ddinas gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr ar ddechrau mis Mehefin, daeth dros 170,000 o ffans pêl-droed i Gaerdydd a thros bedwar diwrnod, bu i'r heddlu arestio tri pherson am dowtio tocynnau.